Amdanom ni
Rydym yn dîm o gynghorwyr busnes arbenigol sy’n canolbwyntio ar sefydlu mentrau cymdeithasol newydd. Rydym yn rhan o raglen Busnes Cymdeithasol Cymru sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, a’i darparu gan Ganolfan Cydweithredol Cymru.
Rydym wedi bod yn cynghori mentrau cymdeithasol er 1982, ac yn yr amser hwnnw wedi helpu i sefydlu cannoedd o fusnesau newydd.
Mae ein cymorth wedi’i ariannu’n llawn, sy’n golygu eich bod yn cael arweiniad am ddim bob cam o’r ffordd.
Dechrau busnes cymdeithasol
Os ydych yn ystyried sefydlu busnes sy’n rhoi ei elw at achos da, gall ein cynghorwyr arbenigol eich helpu i ddechrau arni.
Er mwyn i’ch busnes newydd ffynnu, mae angen i chi adeiladu sylfeini cryf. Gall ein tîm gynnig cymorth busnes un i un i’ch helpu i gael popeth yn ei le. Cysylltwch â ni.
Beth mae’n cleientiaid yn ei ddweud
“Dwi’n gallu dweud o waelod fy nghalon bod Joanne wedi bod yn wych gyda mi. Roeddwn i’n gwbl ddi-glem o ran dechrau busnes – doeddwn i ddim yn gwybod lle i ddechrau ac yn sicr ddim yn gwybod pa lwybr i’w ddilyn. Mae Jo wedi rhoi help i mi gyda chofrestru, fy nghynllun busnes, grantiau, rhoi pecynnau gyda’i gilydd, contractau Cwmni Buddiannau Cymunedol a does dim diwedd ar ei gwybodaeth. Bob tro roeddwn yn dechrau meddwl fy mod yn gwneud y peth anghywir, roedd Jo yno yn gwneud i mi sylweddoli pam fy mod wedi rhoi fy mryd ar wneud hyn a’r gwahaniaeth rydw i’n ei wneud. Ar hyn o bryd mae Joanne yn fy helpu i ddod o hyd i ffynonellau cymorth gyda dylunio gwefan etc. Mae Busnes Cymdeithasol Cymru wedi fy nghadw i fynd ac wedi fy helpu o’r dechrau i’r diwedd.” Katy, Cyfarwyddwr a Sylfaenydd, Mother Matters
“Diolch o galon am y cymorth amhrisiadwy a ddarparwyd gan Busnes Cymdeithasol Cymru wrth sefydlu ein Cwmni Buddiannau Cymunedol, AMATHAON – fel y gwyddoch, roeddwn i’n hitio fy mhen yn erbyn wal! Roeddech chi a’ch cydweithwyr yn ffynhonnell werthfawr i mi yn y dryswch sy’n gallu wynebu rhywun wrth ddechrau a gweinyddu busnes.” Cwmni Buddiannau Cymunedol Amathaon
“Mae ffordd bersonol a phroffesiynol Serena yn hollol berffaith yn fy marn i. Mae’n dalcen caled dechrau menter newydd, ond mae cael Serena o gwmpas i fy nhywys yn gwneud popeth i weld yn bosib ac o fewn cyrraedd. Diolch am eich cefnogaeth.” Cwmni Buddiannau Cymunedol Dol Fach
“Rydw i wedi bod yn falch iawn o’r cymorth hyd yma gan Busnes Cymdeithasol Cymru. O’n helpu i ddeall y gwahanol fathau o strwythur busnes y gallwn eu defnyddio, i gofrestru ein menter gymdeithasol gyda Thŷ’r Cwmnïau. Mae pethau’n anodd ar hyn o bryd i bawb, gyda’r pandemig Covid sydd wedi bod yn ergyd i ni i gyd, a heb y cymorth a gafwyd dydw i ddim yn meddwl y byddwn i wedi gallu sefydlu Any Penny mor gyflym ag y gwnes i.” Geraint Webley, Any Penny
Sut y gallwn eich helpu?
Gall dechrau busnes fod yn heriol, ond gallwn eich tywys o ran sut i sicrhau'r dechrau gorau i'ch busnes cymdeithasol
-
Gweledigaeth a strwythur
Gallwn weithio gyda'ch grŵp i sicrhau bod yna weledigaeth a rennir ar gyfer y busnes, a'ch helpu i ddewis y strwythur cyfreithiol iawn ar gyfer eich busnes newydd
-
-
Hyfforddi cyfarwyddwyr a strategaeth fuddsoddi
Gallwn eich helpu i ddatblygu strategaeth fuddsoddi, eich cynghori ar grantiau, benthyciadau, cyllid torfol a chyfranddaliadau cymunedol, a darparu hyfforddiant i'ch cyfarwyddwyr fel bod ganddynt hyder yn eu rolau a'u cyfrifoldebau
-
Corffori a pholisïau
Gallwn helpu i ysgrifennu eich dogfen lywodraethu ac i gorffori eich busnes. Gallwn hefyd eich helpu i greu polisïau i sicrhau bod eich sefydliad yn cael ei redeg yn dda
-
-
Llywodraethu ac ymgysylltu â'r bwrdd
Gallwn eich helpu i sefydlu system lywodraethu ac i ymgysylltu â darpar aelodau o'r bwrdd
-
Cydymffurfedd a risg
Gallwn eich cefnogi i nodi unrhyw faterion o ran cydymffurfedd neu risgiau a allai fod gan y busnes a sut y gellid eu rheoli
-
-
Agor cyfrif banc
Gallwn eich helpu i agor cyfrif banc ar gyfer eich menter newydd
Straeon llwyddiant
Beth am weld sut y dechreuodd mentrau cymdeithasol eraill arni a sut y maent wedi mynd o nerth i nerth...
-
Holi ac Ateb: Mae sylfaenydd elusen gwisg prom, Ally Elouise, yn gwneud PPE yn ystod argyfwng Covid-19.
Ally Elouise o Prom Ally yn trafod y cymhelliant i alluogi merched ifanc i gael ffrogiau prom yn rhad ac am ddim; llwyddiant yr 'Eco-Wardrob' yn hyrwyddo ailddefnyddio dillad ffurfiol; a'u gwaith gyda'r ymgyrch 'Gwnïo ar gyfer y GIG' yn ystod yr Argyfwng Covid-19.
Darllen mwy
-
Mae menter gymdeithasol o Sir Gâr yn helpu ffoaduriaid o Syria i ddod o hyd i waith yn eu cymunedau newydd
Matt Miller o Amal sy’n trafod sut maen nhw wedi dechrau mynd ati’n ddiweddar i gynnig cymorth i ffoaduriaid o Syria ddod o hyd i waith cyflogedig a hefyd ei gwneud yn haws i gwmnïau lleol eu cyflogi, i gyd o dan yn y cyfyngiadau symud.
Darllen mwy
-
Yn sgil taith feicio i Dwrci, aeth dau entrepreneur e-feic ar daith at ffordd o fyw sy’n fwy effeithiol a chynhwysol
Mae Bethan Ward o Drosi Bikes yn dweud wrthym ni sut dechreuon nhw drosi beiciau pedal diwerth a’r buddion amgylcheddol, corfforol, cymdeithasol ac emosiynol i’w cymunedau o ganlyniad i’r cynnydd yn y defnydd a wneir o feiciau yn ddiweddar.
Darllen mwy
Adnoddau eraill
Dyma ychydig o adnoddau i'ch helpu i ddeall entrepreneuriaeth gymdeithasol ac i ddechrau eich busnes
-
Beth yw busnes cymdeithasol?
Dyma bopeth y mae angen i chi ei wybod am fusnesau cymdeithasol a'r modd y maent yn cael eu harwain gan eu gwerthoedd.
-
Dysgu rhagor am entrepreneuriaeth gymdeithasol
Boed a ydych yn ystyried sefydlu busnes cymdeithasol, yn aelod o'r gymuned sy'n chwilio am ffyrdd i wella eich ardal leol, neu'n astudio busnes ac economeg, mae ein...
-
Y camau nesaf ar gyfer eich busnes
Nawr eich bod wedi cofrestru, dyma’r camau nesaf y mae angen i chi eu cymryd i wneud yn siŵr bod eich busnes yn cael y cychwyn gorau...