Blog

Sut i rymuso’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid cymdeithasol yng Nghymru

Yn y blog hwn, mae Sarah Evans yn amlinellu'r cyd-destun presennol ar gyfer addysg menter gymdeithasol yng Nghymru, a beth arall y gellir ei wneud i rymuso'r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid cymdeithasol i drawsnewid economi Cymru.

By Rhodri McDonagh · Mawrth 3, 2021

Gweler y dudalen hon yn: English

Gweledigaeth a chynllun gweithredu deng mlynedd yw ‘Trawsnewid Cymru drwy Fentrau Cymdeithasol’ ar gyfer y sector mentrau cymdeithasol yng Nghymru a lansiwyd ym mis Gorffennaf 2020. Fe’i cyd-gynhyrchwyd gan fentrau cymdeithasol ac asiantaethau cymorth mentrau cymdeithasol yng Nghymru a gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. 

Mae’r strategaeth yn rhoi manylion naw canlyniad a fydd yn galluogi’r sector i godi eto, troi ac arallgyfeirio ei weithgareddau, a gwireddu ei botensial llawn yn y tymor hwy. 

Canlyniad Dau y ddogfen yw cael mwy o bobl i ddewis model mentrau cymdeithasol i ddechrau busnes newydd. Rydyn ni’n amlwg yn cydnabod bod hwn yn nod uchelgeisiol ac er mwyn cyflawni’r canlyniad hwn, mae angen i ni gynnwys addysg mentrau cymdeithasol yn ein cwricwlwm, o addysg gynradd i addysg ôl-raddedig. 

Mae nod heriol Canlyniad Dau yn cael ei gefnogi gan nifer o gamau sydd angen i ni eu cymryd i roi’r uchelgais hwn ar waith. Er gwaethaf y pandemig, mae gwaith eisoes wedi dechrau ar ‘gydgysylltu’ rhywfaint o’r gwaith gwych a oedd eisoes yn cael ei wneud ym maes addysg entrepreneuriaeth gymdeithasol. Mae’r paragraffau isod yn rhoi blas ar rywfaint o’r gwaith sy’n digwydd eisoes.

Mae addysg fenter yn dechrau yn ifanc iawn yng Nghymru drwy’r Criw Mentrus, y gystadleuaeth Ysgolion Cynradd genedlaethol a gefnogir gan Syniadau Mawr Cymru. Mae gan lawer o’r syniadau busnes sydd wedi’u llunio drwy’r rhaglen ffocws cymdeithasol a chymunedol, ac eleni bydd categori penodol ar gyfer menter gymdeithasol. Mae ein Grŵp Rhanddeiliaid Mentrau Cymdeithasol yn noddi’r wobr, a byddwn yn cymryd rhan mewn digwyddiadau hyfforddi ac yn datblygu adnoddau ar gyfer athrawon cynradd i’w cynorthwyo wrth addysgu am fentrau cymdeithasol. 

Mae nifer o weithgareddau wedi’u cynnal i hyrwyddo addysg mentrau cymdeithasol mewn ysgolion uwchradd. Yn amlwg, rydyn ni’n wynebu amgylchiadau digynsail ar hyn o bryd, ond mae’r gwaith paratoi wedi’i wneud a fydd gobeithio yn arwain at fomentwm newydd yn y flwyddyn academaidd nesaf. Mae gwaith wedi’i wneud gan Busnes Cymdeithasol Cymru a Syniadau Mawr Cymru i ddatblygu Her Menter Gymdeithasol ar gyfer Bagloriaeth Cymru, a bydd yn cael ei lansio yn yr wythnosau nesaf. Trwy’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig a Llywodraeth Cymru, bydd symposiwm yn canolbwyntio ar entrepreneuriaeth gymdeithasol ieuenctid yn cael ei gynnal ym mis Ebrill, a bydd hyn yn ein galluogi i arddangos rhywfaint o’r gwaith rydyn ni wedi bod yn ei wneud yng Nghymru a dysgu o arferion da’r gwledydd cartref eraill ac Iwerddon. Mae sesiynau codi ymwybyddiaeth hefyd wedi’u darparu gan gynghorwyr Gyrfa Cymru a thimau ymgysylltu busnes i edrych ar botensial syniadau mentrau cymdeithasol a chyfleoedd lleoliadau gwaith. Mae gan Syniadau Mawr Cymru hefyd fodelau rôl menter gymdeithasol sy’n ymweld ag ysgolion i siarad am yr hyn y maen nhw wedi bod yn ei wneud a photensial mentrau cymdeithasol. Drwy godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo parhaus, y gobaith yw y gall busnesau cymdeithasol yn eu cymunedau lleol ysbrydoli pobl ifanc ac y bydd pobl ifanc yn ymgysylltu â nhw, drwy eu hastudiaethau, fel Bagloriaeth Cymru, neu drwy leoliadau gwaith neu gyfleoedd gwirfoddoli. 

Mae digwyddiadau hyfforddi hefyd wedi’u cynnal gyda’r Hyrwyddwyr Menter mewn Sefydliadau Addysg Bellach ac Uwch yng Nghymru. Mae cam nesaf y gwaith hwn yn ymwneud â gweithio gyda myfyrwyr a’m cydweithiwr Martin Downes, sy’n Swyddog Mentrau Cymdeithasol, ac sydd wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau Hacathon gyda myfyrwyr ledled Cymru yn canolbwyntio ar syniadau busnes cymdeithasol. Bydd yn amlinellu’r gwaith sydd wedi’i wneud ganddo yn ein blog nesaf. Mae darlithoedd pellach gyda myfyrwyr ar y gweill hefyd. Rydyn ni hefyd yn gweithio gydag academyddion i edrych ar sut gallwn hyrwyddo’r rôl a chadernid y sector mentrau cymdeithasol yng Nghymru, a bydd hyn yn cynnwys ymchwil sy’n gysylltiedig â rôl addysg mentrau cymdeithasol. Mae angen i ni sicrhau bod gan yr ymchwil hon berthnasedd ymarferol yn ogystal â pherthnasedd academaidd ac mae’n rhaid i ni ystyried sut gellir ei defnyddio i lywio polisi a datblygiadau o fewn y sector yn y dyfodol. 

Hefyd, mae grŵp rhanddeiliaid entrepreneuriaeth gymdeithasol wedi’i lunio sy’n cynnwys nifer o sefydliadau rhanddeiliaid allweddol fel Syniadau Mawr Cymru, Gyrfa Cymru a Canolfan Cydweithredol Cymru, ynghyd â Llywodraeth Cymru. Bydd y grŵp hwn yn gofalu ein bod yn gweithio gyda’n gilydd yn strategol ac yn ymarferol i ymwreiddio entrepreneuriaeth gymdeithasol, ond bydd hefyd yn chwilio am gyfleoedd yn y dyfodol i ddatblygu ar sail darpariaeth addysgol. 

Gwyddom fod llawer i’w wneud o hyd, ond mae’r pandemig wedi rhoi cyfle i ni. Mae’r agenda Ailgodi’n Gryfach, gyda phwyslais ar ein cymunedau a chadwyni cyflenwi lleol, wedi rhoi ysgogiad dros newid parhaus. Bydd ymwreiddio entrepreneuriaeth gymdeithasol yn ein lleoliadau addysgol yn allweddol i gynnal y cyfle hwn yn yr hirdymor.  

 

Sarah Evans, Cynghorydd Polisi ac Ymchwil Annibynnol, Canolfan Cydweithredol Cymru 

sarah.evans@wales.coop

Newyddion Diweddaraf