Sut y gall ynni cymunedol chwarae rhan allweddol yn yr ymdrech i gyflawni allyriadau sero-net erbyn 2050

Newid hinsawdd yw prif her ein cyfnod, a rhaid gwneud newidiadau systematig i’n heconomi a’n bywydau i osgoi trychineb. Mae’r ffordd yr ydym yn cynhyrchu ein hynni yn sylfaenol i hyn, ac mae gweithredu gydag arweiniad y gymuned yn hanfodol, yn ysgrifennu Vikki Howell AS.

Gweler y dudalen hon yn: English

Ar 6 Hydref, cyfarfu pum Aelod o’r Senedd yn rhithiol er mwyn i’n Grŵp Trawsbleidiol ar gyfer Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol glywed am fanteision prosiectau ynni cymunedol, ac i drafod sut y gall llunwyr polisïau gefnogi’r sector cynyddol hwn i helpu Cymru i gyrraedd ei tharged o allyriadau sero-net erbyn 2050. Roedd Luke Fletcher AS hefyd yn y cyfarfod a gadeiriwyd gennyf (Is-gadeirydd y grŵp), Huw Irranca-Davies AS, Peredur Owen Griffiths AS a Mark Isherwood AS, oedd yn golygu bod y tri grŵp mwyaf yn y Senedd i gyd yn bresennol yn y cyfarfod i glywed am y pwnc allweddol hwn a’i drafod gydag arbenigwyr ac ymarferwyr. Yn ôl Ynni Cymunedol Cymru, mae’r sector yn gymedrolwr hanfodol yr ymddiriedir ynddo wrth drosglwyddo i sero-net. Canfu ei adroddiad Cyflwr y Sector ar gyfer 2021 bod y sector eisoes yn tyfu yng Nghymru; roedd yn cyflogi dros 79 o bobl yn 2020, cododd dros £4.4 miliwn mewn cyfranddaliadau cymunedol, a gosododd chwech o sefydliadau brosiectau trydan adnewyddadwy ar draws y wlad. Trafododd Rob Proctor, Rheolwr Datblygu Busnes yn Ynni Cymunedol Cymru, brif fanteision prosiectau ynni cymunedol. Mae’r grwpiau yma yn gwneud cyfraniad sylweddol at gynhyrchu ynni gwyrdd yng Nghymru, gyda 22.6 MW o gapasiti ynni adnewyddadwy wedi ei osod. Ar raddfa fwy, mae gan ynni cymunedol y potensial i gyflawni o leiaf 1 GW o eneradu mewn perchenogaeth leol erbyn 2030. Pwysleisiodd Rob hefyd, fel cymdeithasau budd cymunedol, bod y grwpiau yma yn sicrhau bod 100% o’r elw yn mynd tuag at y gymuned leol, a bod budd economaidd ychwanegol trwy’r swyddi a gynhyrchir ac wrth i gontractau fynd i gyflenwyr lleol. Cytunodd Dan McCallum o Awel Aman Tawe gyda Rob mai un o brif fanteision y grŵp hwn yw’r berthynas sydd ganddynt gyda phobl yn y cymunedau lleol. Mae’n eu cael i fod yn rhan o’r drafodaeth am newid hinsawdd, gan sicrhau bod y newidiadau y mae’n rhaid eu gwneud yn cael eu gwneud gyda’u caniatâd, a bod yr effaith y mae’n ei gael ar leoedd gwirioneddol yn cael ei ystyried bob amser. Yn allweddol, mae’n annog newidiadau mewn ymddygiad trwy wneud pobl yn asiantau gweithredol yn ein hymateb ar y cyd i newid hinsawdd. Nodwyd hefyd bod gan lunwyr polisïau ran allweddol wrth gefnogi’r sector i dyfu. Trafododd Dan enghraifft gadarnhaol, sef ei bartneriaeth yn ddiweddar â Chyngor Casnewydd, a’i fod am allu gweithio mewn modd tebyg gydag eraill – ceir rhagor o wybodaeth am hyn yma: https://www.local.gov.uk/case-studies/newport-citycouncil-community-renewable-energy.

Trafododd Holly Care o CARE yn Cwm Arian yr heriau y maent wedi eu hwynebu wrth gychwyn a datblygu eu prosiect, ac roedd yn annog llunwyr polisïau i’w gwneud yn haws i grwpiau newydd ddechrau trwy ymdrin â’r rhwystrau sy’n bodoli. Trafododd Holly y gwytnwch a’r sgiliau sydd ar y grŵp eu hangen i oresgyn yr heriau hyn, ond dywedodd bod yr effaith gwirioneddol y maent wedi ei gael trwy agor y tyrbin gwynt wedi rhoi hyder iddyn nhw ac adnoddau i ddatblygu eu sefydliad ymhellach eto. Roedd yn wych ein bod wedi gallu gwahodd holl Aelodau’r Senedd ar y llwyfan rhithiol i drafod y sector allweddol yma, a’r hyn y gellir ei wneud i gefnogi’r grwpiau hyn yn y dyfodol. Trafodwyd nifer o faterion gennym, gan gynnwys pwysigrwydd “trosglwyddiad cyfiawn” wrth i ni newid ein heconomi a’n ffordd o fyw wrth ymateb i newid hinsawdd, a phwysigrwydd gweithio gyda chymunedau ar lawr gwlad yn hytrach na gorfodi rhywbeth arnynt – dau fater y bydd ynni cymunedol yn naturiol yn rhan bwysig ohonynt. Un mater allweddol a amlygwyd oedd yr anhawster i’r grwpiau yma gael tir. Amlygwyd hyn ar draws amrywiaeth eang o faterion, ac mae rhoi’r cyfle cyntaf i gymunedau brynu tir pan fydd yn cael ei werthu yn fater fydd yn cael ei archwilio ymhellach gan y grŵp. Fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol, hoffwn ddiolch i’r holl siaradwyr, fy nghydaelodau o’r Senedd a’r rhai a ddaeth i’r cyfarfod am ddigwyddiad diddorol wnaeth brocio’r meddwl. Yn COP26 a thu hwnt, bydd y materion hyn yn dod yn fwy a mwy pwysig, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda mentrau cymdeithasol, cwmnïau cydweithredol a grwpiau cymunedol fel gweithredwyr allweddol wrth gyflawni allyriadau sero-net cyn gynted â phosibl mewn ffordd gyfiawn a chyfartal a thynnu sylw atynt. Bydd cyfarfod nesaf y Grŵp Trawsbleidiol yn y flwyddyn newydd, pan fyddwn yn trafod mater allweddol arall ar gyfer y sector cydweithredol.

Vikki Howells - Wikipedia
Ffynhonnell y llun: Wikipedia

Vikki Howells MS, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar gyfer Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol