Sylfeini a chysylltiadau yn ystod y cyfyngiadau symud

Mae Ebony Redhead o Fusnes Cymdeithasol Cymru yn rhannu effaith mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol ar ei bywyd yn ystod y cyfnod cloi yng ngogledd Cymru.

See this page in: English

Fel pawb arall, rwyf wedi bod o dan gyfyngiadau symud ers dros wyth wythnos.  Yn ystod y cyfnod hwn, un peth rwyf wedi’i sylweddoli yn fwy na dim byd arall yw pa mor ddiolchgar ac, mewn gwirionedd, balch ydw i fy mod i wedi meithrin cysylltiadau cryf â gwasanaethau a chyflenwyr bwyd lleol yn fy nghymuned.  Dw i ddim yn arbennig – nid oedd angen gweithio’n galed i adeiladu’r fath gyflenwad, rhaff achub a strwythur cymdeithasol gwych o amgylch fy nheulu.  Roedd yn hawdd, oherwydd roeddent ar gael diolch i waith caled ac ymroddiad y rhai yn fy nghymuned – gwasanaethau a oedd wedi’u sefydlu a’u rhedeg gan fentrau gymunedol, cwmnïau cydweithredol a busnesau economi sylfaenol anhygoel.

Mae cymaint o’r hyn sydd wedi ein cadw i fynd yn ein cornel bach ni o Eryri yn deillio o’r busnesau lleol hyn.

Mae’r effaith y mae’r cysylltiadau a’r rhwydweithiau hyn wedi’i chael ar fy nheulu wedi bod yn drawiadol a dyna’r rheswm dros ddweud fy nweud yma.

Rwy’n berson sy’n poeni am bethau wrth reddf ac mae fy mhrofiadau o siopa mewn archfarchnadoedd yn mynd yn fwy a mwy dystopaidd.  Fodd bynnag, pan fyddaf yn gyrru i Dyddyn Teg, cwmni cydweithredol lleol i dyfwyr, rwy’n teimlo mor wahanol am brynu bwyd yn ystod pandemig. Rydym wedi bod yn rhan o’i gynllun llysiau ers y cychwyn.  Mae’r mesurau y mae’r cwmni cydweithredol tyfu bach hwn wedi’u rhoi ar waith er mwyn sicrhau bod pob aelod a chwsmer sy’n galw heibio yn teimlo’n ddiogel, wedi bod yn wych.  Mae hefyd wedi gweithio’n galed i ddarparu’r llysiau organig gorau, sydd wedi’u tyfu ar ei fferm ei hun, yn ogystal â chynnyrch gan dyfwyr eraill (cydweithredu go iawn) a ffrwythau a chynnyrch arall ymhellach i ffwrdd.  Mae’r ffordd y mae wedi cyfathrebu wedi bod yn gyson ac yn gysur, ac mae ei ryseitiau (ynghyd â’i gynnyrch hyfryd wrth gwrs) yn well o lawer na rhai Jamie Oliver ar gyfer y rheini sydd â’r pethau arferol yng nghefn y cwpwrdd.

 


Os nad oeddwn yn rhan o’r cynllun hwn, rwy’n gwybod bod cwmni cydweithredol gwych arall yn agos – mae siop fferm Moelyci ar agor o hyd (gyda pholisi ‘un mewn, un allan’ llym ar waith).  Mae’r arloeswr hwn ym maes ffermio sy’n eiddo i’r gymuned yn darparu bwyd lleol a gynhyrchir yn lleol i’n cymuned yn ystod y cyfnod hynod annifyr hwn.

Rwyf wedi gallu cael gafael ar fwyd môr lleol drwy Gwmni Bwyd Môr Menai.  Roeddwn i eisoes wedi ymuno â’r rhestr bostio ar gyfer archebu bwyd môr lleol ffres bob wythnos – i’w gasglu o’i gegin ym Methesda.  Ar ôl siarad â’i gyd-sylfaenydd, Mark, cefais wybod ei fod yn rhan o gynllun peilot Economi Sylfaenol gyda Phartneriaeth Ogwen, sef menter gymunedol ddynamig iawn a oedd yn gweithredu ledled Dyffryn Ogwen.  Ei nod?  Dod â phobl leol yn agosach at eu bwyd.  Roeddwn o’r farn ei fod yn syniad gwych ar y pryd, ond nawr, mae’n teimlo fel rhywbeth hollbwysig.

 

 

Ers y dyddiau glas cyn Covid-19, mae busnesau lleol wedi dod at ei gilydd mewn partneriaeth o dan brosiect Cadwyn Ogwen er mwyn helpu’r gymuned drwy ddosbarthu eu cynnyrch yn uniongyrchol.  Mae Partneriaeth Ogwen, y sefydliad angori cymunedol sydd bob amser yn ddyfeisgar, wedi darparu ar gyfer y gymuned unwaith eto – gan ddwyn y cyflenwyr hyn at ei gilydd a phennu diben newydd i’w gar trydanol sy’n eiddo i’r gymuned, o’r enw  “Carwen”, er mwyn dosbarthu’r cyflenwadau gan gynnwys llysiau, caws, madarch ac ati, i gartrefi yn uniongyrchol.

Rwy’n gwybod bellach, pe bai angen i fy nheulu hunanynysu, y byddwn yn gallu cael bwyd lleol wedi’i ddosbarthu i’r tŷ.  Rwy’n ymwybodol bod llawer o’m ffrindiau yn aros gartref fel rhan o’r mesurau gwarchod oherwydd cyflyrau iechyd amrywiol ac nad ydynt yn gallu cael nwyddau o archfarchnadoedd prif ffrwd wedi’u dosbarthu i’w cartref.  Fodd bynnag, mae’r microfusnesau lleol hyn, drwy gydweithio a thrwy cael cymorth gan fenter gymunedol frwdfrydig sy’n gweithredu’n gyflym, yn ymateb gydag empathi ac yn ddi-oed i ddiwallu anghenion eu cymuned, gan ddarparu gwasanaeth dibynadwy i bobl na all y ‘siopau mawr’ ei warantu.

Nod Carwen y car trydanol erioed oedd helpu’r rhai nad oeddent yn gallu gyrru i fynd i apwyntiadau meddygol ac ati.  Ond mae’r cylch gwaith estynedig hwn yr oedd ei angen yn ddirfawr bellach yn wasanaeth hollbwysig i lawer o bobl.  Gyda’i gallu i ymateb yn hyblyg ac yn gyflym i sefyllfa heriol, mae Partneriaeth Ogwen yn llwyddo i gefnogi’r bobl sy’n agored i niwed a’r rhai sy’n hunanynysu yn y gymuned.

Mae’n rhaid i mi sôn am y gwneuthurwr pizza sydd wedi cau yn ystod y pandemig ac sydd bellach yn gwerthu blawd (ie, y sylwedd hwnnw sy’n fwy gwerthfawr nag aur) o’r maes parcio ym Methesda.  Roedd fy mhartner yn gallu defnyddio ei ymarfer corff dyddiol i feicio yno gyda rhai cynwysyddion gwag. Pan ddaeth yn ôl, roedd y cynwysyddion yn llawn blawd, ac roedd wedi rhoi burum ffres iddo hefyd!  Ac aethom ati i wneud y peth mwyaf gwerthfawr hwnnw ar hyn o bryd – pobi bara!

Y cynnig diweddaraf a welais ar fy ffrwd Twitter oedd bod menter gymdeithasol flaenllaw, Antur Waunfawr, yn cynhyrchu seidr. Gallwch dalu amdano drwy PayPal a bydd y fenter yn dosbarthu’r seidr i chi – beth arall y gall y mentrau cymdeithasol anhygoel hyn ei wneud?!

O ran blawd, rydym hefyd wedi gallu prynu peth yn ein siop gyfleustra leol. Mae’r siop fach hon wedi gallu cael gafael ar flawd gan bopty lleol, tra nad yw’r archfarchnadoedd yn gallu cynnig dim.  Rwy’n ddiolchgar iawn i’r cigydd lleol yn Llanrug sy’n dosbarthu cynnyrch i’m teulu ehangach sy’n aros gartref fel rhan o’r mesurau gwarchod.  Mae fy mam yn siopa yno yn aml, mae’r staff yn ei hadnabod ac maent wedi bod mor gymwynasgar a charedig.

O ran cydweithrediad ehangach, a dosbarthu bwyd a chyflenwadau ar raddfa fwy, rwy’n gallu diolch i’m cyflogwr, fy ffrindiau a Suma am hynny.  Sawl blwyddyn yn ôl, cynhaliodd Canolfan Cydweithredol Cymru gystadleuaeth staff yn ystod Pythefnos Masnach Deg.  Roedd yr aelod o staff a oedd yn gwneud yr addewid gorau yn ennill bag o nwyddau masnach deg.  Fi enillodd!  Ac, yn well na hynny, rwy’n fenyw sy’n cadw at ei gair a gwnes i chadw fy addewid buddugol, sef dwyn ffrindiau ynghyd i sefydlu cwmni cydweithredol prynu cymunedol (anffurfiol, yn hytrach na ffurfiol).  Roedd pedwar teulu lleol yn prynu’n uniongyrchol o Suma – y cwmni cydweithredol i weithwyr cyfanwerthu  Rydym wedi bod yn gwneud hyn ers blynyddoedd.  Felly, pan sylweddolais na ddylwn i fod wedi rholio fy llygaid o ran y bobl a oedd yn prynu mewn panig a bod dim byd ar ôl ar y silffoedd ar gyfer fy nheulu, yn lle teimlo fel ‘mam wael’, roeddwn i’n ddiolchgar ar unwaith am y storfeydd o reis, pasta, tomatos tun, nwyddau glanhau, sebon a chynhyrchion eraill roeddwn i wedi’u prynu cyn COVID-19.  Pan fyddwch chi’n prynu gan gwmni cydweithredol, mae popeth yn dod yn sypiau mawr!

Rwyf hefyd yn gwybod am Gwmni Cydweithredol Bwydydd Cyflawn Bethesda, sef cwmni sydd wedi’i adeiladu a’i redeg gan wirfoddolwyr. Maent yn gweithio mor galed i dderbyn archebion pawb a sicrhau bod stoc yn ei siop ar y stryd fawr.  Mae’r cwmni cydweithredol bach hwn wedi bod yn rhedeg ers yr 19700au!

Rwy’n ffodus iawn fy mod i’n dal i weithio (mae’n golygu bod gennym un incwm o hyd yn ystod y cyfnod hwn), ac yn gweithio i gyflogwr anhygoel.  Rwy’n ffodus iawn bod gardd fach i’r plant a’n bod yn byw mewn cymuned wledig, felly mae ein hymarfer corff bob dydd yn dawel ac yn ddi-straen ar y cyfan (ac eithrio’r ffaith fy mod i’n gorfod eu hatgoffa nhw’n gyson i beidio â chyffwrdd ym mhopeth!) ac rwy’n ddiolchgar am y pethau hyn bob dydd, rwy’n gwybod na ddylid cymryd y pethau hyn yn ganiataol.  Rwy’n gwybod bod profiad pawb yn wahanol, ac rwy’n meddwl am hynny bob dydd; rwy’n teimlo’n ddig ac yn drist pan fyddaf yn meddwl am y poen a’r galar y mae llawer o bobl yn eu hwynebu ar hyn o bryd.

Roeddwn i’n teimlo bod rhaid i mi ysgrifennu hwn, yn bennaf am fy mod yn bryderus a bod siopa ar raddfa fach yn lleihau’r gorbryder hynny gymaint – mae cysylltiadau o’r fath wedi cael cymaint o effaith.  Yn fy marn i, dylai’r cysylltiadau bach, lleol hyn a’r rhaff achub a gynigir gan yr economi sylfaenol, fod ar gael i bawb.

Mae hyn oll ar gael mewn ardal ddaearyddol fach, ac rwy’n siŵr ei bod yn digwydd ledled Cymru. P’un a yw’n cynnwys cigyddion lleol neu siopau groser sy’n dosbarthu cynnyrch i’r bobl sy’n agored i niwed, y rhai sy’n aros gartref fel rhan o’r mesurau gwarchod neu sy’n hunanynysu (lle byddent yn aros am fis i gael slot dosbarthu nwyddau gan un o’r archfarchnadoedd mawr) neu’r mentrau cymdeithasol sy’n cydlynu ymatebion lleol, gan sicrhau bod aelodau o’r gymuned yn cael y nwyddau sydd eu hangen arnynt.

Nawr, rwy’n berson ymarferol ac rwy’n gwybod na all y cysylltiadau lleol hyn ddiwallu holl anghenion sylfaenol a llesiant fy nheulu a bod angen cyfleusterau manwerthu ar raddfa fawr a diwydiannau eraill hefyd (rwy’n arbennig o ddiolchgar i’r Grŵp Cydweithredol am y ffordd y mae wedi ymateb yn ystod y cyfnod heriol hwn drwy ei siopau lleol).  Nid wyf am danbrisio’r rôl enfawr y mae’r rhai sy’n gweithio yn yr  archfarchnadoedd mawr yn ei chwarae, a pha mor wych y maen nhw wedi bod hefyd.  Rwy’n ysgrifennu hwn gyda brwdfrydedd dros yr hyn a ddarperir ar raddfa fach, nid wyf yn diystyru’r rhai sy’n gweithredu ar raddfa fawr o gwbl.  Ond mae’n rhaid i mi ddweud bod y rhwydweithiau cymunedol hyn a’r cysylltiadau â bwyd a chymorth lleol wedi rhoi rhoi ymdeimlad o sicrwydd a rhyddhad i mi mewn cyfnod ac mewn byd lle nad oes fawr ddim o hynny ar hyn o bryd.  Hoffwn i bawb yng Nghymru gael yr un peth.

Fy ngreddf gryfaf yw, pan ddaw hyn i ben, pryd bynnag y bydd hynny, dyma’r pethau y mae angen i ni adeiladu arnynt.  Mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar y mentrau cymdeithasol a’r cwmnïau cydweithredol hynny a phob un o’r busnesau a’r partneriaethau hynny yn yr economi sylfaenol sydd wedi darparu eu gwasanaethau i’m teulu ac eraill ledled Cymru.  Mae angen i Gymru ystyried eu hatgyfnerthu a’u hatgynhyrchu, er mwyn sicrhau bod pob cymuned yn ein gwlad arbennig yn cael yr un gwasanaeth.  Drwy’r egwyddorion arweiniol y mae llawer o gydweithredwyr wedi eu coleddu’n hanesyddol, drwy gydweithio ymhlith cwmnïau cydweithredol, drwy weithio mewn partneriaeth a pherchenogaeth gymunedol a thrwy greu elw er budd cymdeithasol – gallwn adeiladu ar hyn (ac mae’n rhaid i ni).  Rwy’n gobeithio y byddwn yn gwneud hynny yng Nghymru, dros fy mhlant bach i a thros genedlaethau’r dyfodol.  Os gall y ffordd hon o fyw yn agos at y tir a chynnych lleol a gweithio gyda’n gilydd ar lefel gymunedol ddod yn ‘beth arferol’ (mae cymaint yn ceisio rhagweld beth fydd hynny ar hyn o bryd!), gallwn sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn barod ac yn wydn drwy’r misoedd a’r blynyddoedd i ddod, a’u bod yn gallu darparu ar gyfer eu hunain a chefnogi ei gilydd, ni waeth beth y byddant yn ei wynebu mewn bywyd.

Nawr, rwyf am ddysgu sut i archebu seidr y fenter gymdeithasol honno!

Oes gennych chi stori i #NewyddionDaCymru?

Os ydych chi’n gwybod am unrhyw un sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth yn ei gymuned neu os hoffech hyrwyddo eich gweithredoedd da, cysylltwch â ni er mwyn rhannu’r hanes.

 

 

#GoodNewsCymru Welsh

  • This field is for validation purposes and should be left unchanged.