Blog | Cydweithredol | Policy

Y Camau Nesaf ar gyfer Cwmnïau Cydweithredol Platfform yng Nghymru

Yn dilyn cyfarfod diwethaf y Grŵp Trawsbleidiol ar gyfer Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol, mae'r Swyddog Polisi ac Ymchwil Daniel Roberts yn amlinellu'r beth rydym wedi dysgu am y potensial i'r math newydd hwn o gwmni a'r hyn sydd angen i ni ei wneud i ganiatáu i'r sector ffynnu.

By Rhodri McDonagh · Mai 4, 2021

Gweler y dudalen hon yn: English

Fis nesaf, byddwn yn dathlu daucanmlwyddiant a hanner geni Robert Owen, un o arloeswyr enwocaf y mudiad cydweithredol yng Nghymru o’r Er bod ein bywydau, ein cymunedau a’n heconomïau wedi’u trawsnewid yn llwyr dros y cyfnod hwn, gwyddom fod gan ysbryd cydweithredu ac undod y potensial i greu cymdeithas fwy cyfartal a gwydn. Un o’r datblygiadau mwyaf trwblus yn ein heconomi dros y deng mlynedd diwethaf yw twf llwyfannau digidol mewn ystod eang o ddiwydiannau; o fwyd i dacsis, ac o lety i ddiwylliant.

Ar 25 Mawrth, cynhaliodd Canolfan Cydweithredol Cymru’r Grŵp Trawsbleidiol Seneddol ar gyfer Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol. Clywsom am fentrau cydweithredol platfform a’r potensial sydd ganddynt i wneud y math newydd hwn o fenter platfform digidol yn fwy democrataidd. Yn hytrach na bod yn eiddo i fusnesau technoleg mawr neu gyfalafwr menter, mae mentrau platfform cydweithredol yn eiddo i ac yn cael eu llywodraethu gan y bobl sydd ynghlwm â nhw, fel y gweithwyr a’r defnyddwyr. Gall hyn wella amodau gwaith ac mae’n sicrhau bod y busnesau hyn yn cael eu hysgogi drwy greu lles cymdeithasol.

Yn y cyfarfod, clywsom gan amrywiaeth o arbenigwyr ac ymarferwyr, a thrafodom beth ddylai’r camau nesaf fod o ran hyrwyddo’r mathau hyn o gydweithfa yng Nghymru. Siaradodd Ludovica Rodgers o Co-operatives UK am lansio’r rhaglen UnFound, gafodd ei sefydlu i hwyluso datblygiad y sector mentrau cydweithredol platfform ledled y DU. Er bod corff sylweddol o waith academaidd wedi’i ddatblygu’n rhyngwladol sy’n edrych ar y potensial ar gyfer cydweithfeydd platfform, mae’r sector ei hun yn dal i fod yn ei fabandod – ond does dim syndod o ystyried bod economi platfform yn gyffredinol yn ffenomenon cymharol newydd.

Mae tua 30 o gydweithfeydd platfform wedi dechrau yn y DU ers 2015, ond bu ymchwydd mewn diddordeb dros y flwyddyn ddiwethaf, yn enwedig ers dechrau rhaglen gymorth bwrpasol. Amlinellodd Ludovica y gwahanol fathau o gwmnïau sy’n bodoli, gan gynnwys y rhai sy’n cael eu harwain gan weithwyr megis platfformau ar gyfer gyrwyr tacsis, cydweithfeydd seilwaith ar gyfer defnyddio technoleg yn lleol (fel cymuned leol yn dod at ei gilydd i rannu ceir trydan), a chydweithfeydd data lle mae unigolion yn dod at ei gilydd i gyfuno’u data naill ai er mwyn gwerthu neu i gael mewnwelediad newydd ar sut maent yn gweithio.

Mae’n amlwg bod gan y sector hwn lawer o botensial. Rydym angen i’r mudiad cydweithredol yn ei gyfanrwydd hyrwyddo a chefnogi’r cysyniad a’r sefydliadau sydd eisoes wedi dechrau – rydym yn gwybod am bŵer economaidd a dylanwadol platfformau digidol, ond mae angen i weithwyr cydweithfeydd platfform ail-greu hynny gydag undod a phartneriaeth. Gall y sector cyhoeddus chwarae rhan drwy ddarparu cymorth arbenigol i’r busnesau hyn a meithrin y gymuned, a gweithredu fel sefydliadau angor. Mae’n rhaid i ni greu’r amodau ar gyfer grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli o fewn y maes technoleg i ddechrau’r platfformau hyn; maent yn aml yn dod o le o angen, gan y rhai sy’n aml eisoes yn cael trafferthion o ganlyniad i gyflogau isel a gwaith ansicr.

Y nesaf i siarad oedd Duncan McCann o’r Sefydliad Economeg Newydd, a drafododd ddau o’r prif rwystrau i ddatblygu’r sector hwn; cyfalaf a sgiliau. Yn ei brofiad o weithio gydag entrepreneuriaid eginol yn ceisio dechrau cydweithfeydd platfform mewn gwahanol leoliadau ledled Lloegr, canfu fod dewis arferion moesegol dros geisio elw bron yn amhosibl i lawer o fusnesau. Gan ddefnyddio enghreifftiau o brofiadau gyrwyr tacsis yn lansio cydweithfeydd platfform eu hunain yn Llundain a Swydd Efrog, dangosodd sut mae costau cychwyn yn dod yn fwyfwy afresymol, ac fel sector a mudiad mae angen i ni ganfod ffordd o ddatrys hyn. Mae’r amrywiaeth o sgiliau sydd eu hangen i redeg cydweithfeydd platfform hefyd yn her – i gychwyn, mae yna angen bod yn fedrus yn y gweithgaredd rydych chi’n gweithio arno (fel gyrru tacsis neu gynhyrchu bwyd), ond mae angen i chi hefyd allu rhedeg y cwmni cydweithredol. Mae dod o hyd i’r bobl sy’n gallu perfformio pob sgil sydd ei angen i redeg menter fel hon, fel Adnoddau Dynol, marchnata a datblygu technoleg, yn anodd iawn ac yn profi pam bod angen cymorth arbenigol.

Yna clywodd y grŵp gan entrepreneuriaid go iawn yn y diwydiant hwn am eu profiadau o ddechrau mentrau platfform cydweithredol. Disgrifiodd Lynne Davies o rwydwaith Open Food, sydd yn y diwydiant bwyd, fwyd fel her gysylltiol – sy’n cysylltu’r amgylchedd, iechyd a chymunedau. Yn ôl Lynne, nid yw rhoi rhywbeth sydd mor ganolog i’n bywydau i bwerau corfforaethol mawr yn teimlo’n iawn. Mae rhwydwaith Open Food yn gweithredu ar raddfa fyd-eang ar sail sybsidiaredd, gan ddarparu system gymorth y gellir ei gwneud yn berthnasol i’r cyd-destun lleol. Cyn i Lywodraeth y DU hyd yn oed lansio’r cyfnod clo’r llynedd, roedd y rhwydwaith yn siarad â phobl yn Tsieina i weld sut roedd busnesau tebyg yn ymateb, a helpodd fusnesau’r DU i ddysgu ac i addasu.

Trafododd Emma Back o Equal Care Co-op ei phrofiad o lansio cydweithfa blatfform yn y sector gofal cymdeithasol. Dywedodd fod gofalwyr a’r rhai sy’n derbyn gofal yn cael eu trin yn wael ar hyn o bryd o fewn y sector hwn – nid yw’r diwydiant gofal yn gofalu. Mae angen i benderfyniadau ar y ffordd y rhoddir gofal gael eu gwneud gan y rhai sy’n cyfranogi yn y gweithredoedd hyn – dyma ddiben craidd y gydweithfa blatfform hon, a dyma’r cyntaf yn y byd sy’n gwneud hyn. Mae’n eiddo i ofalwyr a derbynwyr gofal a chymorth. Mae’n caniatáu datblygu perthynas rhwng y gofalwr a’r derbyniwr, rhannu pŵer, a chaniatáu digonedd o gymorth.

I gloi, trafododd y grŵp a’r mynychwyr beth yw’r camau nesaf ar gyfer y sector hwn, yng Nghymru ac yn rhyngwladol, gyda phynciau’n amrywio o dai sy’n pontio’r cenedlaethau i reoli tir yn y gymuned. Mae’n amlwg bod potensial sylweddol i’r model hwn, ac rydym yn barod i gefnogi’r sector i ddatblygu yng Nghymru. Drwy ein profiad a’n gwybodaeth arbenigol, gallwn gefnogi’r rhai sydd am symud pŵer i weithwyr a chymunedau.