Rôl grwpiau cymorth cydfuddiannol mewn cymdeithas ar ôl COVID-19

Mae cymunedau wedi camu i’r adwy i ddarparu gofal drwy gydol yr argyfwng COVID-19, ond sut y dylai’r llywodraeth ymateb? Mae Dan Roberts, ein Swyddog Polisi ac Ymchwil, yn edrych ar y syniadau posibl a allai gefnogi cymunedau yng Nghymru.

See this page in: English

Mae argyfwng COVID-19 wedi arwain at newidiadau sylweddol ym mywydau pobl Cymru. Gan fod ein cymunedau wedi gorfod delio â’r amgylchiadau sydd wedi deillio o’r feirws, un o’r ymatebion mwyaf trawiadol oedd y rhwydweithiau o wirfoddolwyr a sefydlwyd i helpu’r rhai sydd fwyaf agored i niwed. Gellir gweld cyfeirlyfr canolog y grwpiau cymorth cydfuddiannol hyn yma, sy’n dangos y miloedd ohonynt sydd ar waith ledled y DU. Mae ymchwil gan y Rhwydwaith Llywodraeth Leol Newydd wedi canfod bod y grwpiau digymell, llawr gwlad hyn o wirfoddolwyr wedi bod yn rhan annatod o’r ymateb i’r argyfwng, gan helpu cyfran fawr o’r miliynau o unigolion sy’n gwarchod yn ystod y pandemig. Rhwng casglu presgripsiynau a nwyddau groser hanfodol, a galw heibio i weld y rhai sydd wedi’u hynysu ac wedi datgysylltu yn eu cartrefi, mae’r grwpiau hyn wedi ymgymryd â gwasanaeth cymunedol hanfodol.

Nod y blog hwn yw dechrau trafodaeth am sut y dylid ystyried y ffenomenon hwn mewn cyd-destun polisi. Mae yna awydd mawr yng ngwleidyddiaeth Cymru i adfer o’r argyfwng hwn ac adeiladu cymdeithas ac economi sy’n fwy cadarn, mwy cynaliadwy a mwy cyfartal nag o’r blaen. Mae’r enghreifftiau hyn o undod a threfn gymunedol a welsom ledled Cymru, yng nghefn gwlad ac yn yr ardaloedd trefol, yn y gogledd a’r de, yn y dwyrain a’r gorllewin, yn awgrymu bod yn un awydd i’w weld ar lawr gwlad hefyd. Yn lle ceisio rhoi polisïau ar waith oddi uchod, mae’r syniad o gefnogi cymunedau ac ymddiried ynddynt i ddatblygu gwasanaethau cymorth o lawr gwlad i fyny yn un deniadol.

Cyd-destun a Chwmpas yr Ymateb

Ar y pwynt hwn, mae’n werth cofio’r heriau anhygoel y mae ein cymunedau wedi eu hwynebu o dan y cyfyngiadau symud. Mae’r rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas wedi cael eu hynysu ymhellach, am eu bod wedi gorfod gwarchod eu hunain rhag y boblogaeth ehangach am fisoedd. Er mai gallu cael gafael ar hanfodion bob dydd megis bwyd a phresgripsiynau yw’r pryder mwyaf, mae’r teimladau o unigrwydd a bod heb gysylltiadau sy’n codi yn sgil y cyfyngiadau symud hefyd yn gallu achosi problemau sylweddol. Mewn ymateb i hyn, roedd unigolion a grwpiau ledled Cymru yn gwybod y byddai angen iddynt gamu i’r adwy, dangos trugaredd a chymryd cyfrifoldeb am lesiant eu cymdogion a’u cymunedau.

Siaradais â Dafydd Trystan, a ddechreuodd grŵp yn Grangetown, Caerdydd. Ar ôl gweld yr hyn oedd yn digwydd yn Sbaen, a gyrhaeddodd frig y feirws cyn Cymru, roedd yn gwybod bod angen gweithredu cymunedol. Gwirfoddolodd 178 o bobl yn yr ardal leol, ac mae mwy na 200 o bobl wedi cael eu helpu gan y grŵp hyd yn hyn. Ar ochr arall y wlad yng Nghonwy, roedd grwpiau hefyd yn cael eu sefydlu yn anffurfiol mewn trefi a chymunedau ledled y sir. Bu Aaron Wynne, sy’n gynghorydd lleol, yn gyfrifol am ddechrau grŵp o’r fath yn ei ardal leol ei hun, sef Llanrwst, gan geisio uno’r gwahanol grwpiau unigol a oedd yn cael eu ffurfio. Daeth tua 400 o bobl ymlaen i wirfoddoli ym mhob rhan o’r sir, ac ar y cyfnod prysuraf, roedd y llinell ffôn ganolog yn derbyn mwy na 700 o alwadau bob wythnos gan bobl yn chwilio am gymorth. Mae’r niferoedd hyn yn dangos pa mor ddifrifol oedd y sefyllfa i bobl ledled Cymru yn ystod y cyfnod hwn, ond hefyd faint o bobl oedd yn barod i ddod ymlaen a chymryd cyfrifoldeb am lesiant eu cymdogion a’u cymunedau.

Pwy sy’n Cychwyn y Grwpiau hyn a Phwy sy’n Ymuno â nhw?

Un o’r cwestiynau cyntaf y dylid ei ofyn wrth edrych ar y grwpiau hyn yw, pwy yn union sy’n eu cychwyn, neu pwy sy’n cymryd rhan ynddynt, a’r un mor bwysig, pam maent yn gwneud hyn? Mae Emma O’Dwyer wedi ysgrifennu yma am ddemograffeg y sawl sydd wedi gwirfoddoli yn y DU, gan gasglu eu bod yn bennaf yn dod o’r dosbarth canol, gyda 76% ohonynt mewn un o’r astudiaethau yn gweithio yng nghategori y galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol. Roedd dadansoddiad Marco Felici o’r cyfeirlyfr canolog o grwpiau cymorth cydfuddiannol hefyd yn dangos eu bod i’w gweld amlaf mewn ardaloedd o fantais economaidd-gymdeithasol.

Yn ystod fy sgwrs gyda Dafydd, a sefydlodd grŵp yn Grangetown, Caerdydd, daeth yn glir pa mor bwysig i’r grŵp oedd pobl â sgiliau a phrofiad o drefnu. Mae ganddo ef ei hun brofiad helaeth ym maes rheoli prosiectau a gweithredu cymunedol, ac mae hyn hefyd yn wir am bobl eraill a oedd wedi ymgymryd â rolau arwain yng ngrŵp Grangetown. Yn ôl Dafydd, hwn oedd un o’r rhesymau pwysicaf i’r grŵp allu helpu pobl yn eu cymuned mor effeithiol ar raddfa fawr. Roedd y profiad yng Nghonwy yn debyg, gan fod y bobl a aeth ati i sefydlu grwpiau yn Llandudno a thref Conwy ei hun eisoes yn ymwneud â’r gwaith o redeg y banciau bwyd yn yr ardal honno. Fodd bynnag, yn ystod fy sgwrs gydag Aaron, nododd fod y profiad hwn wedi rhoi cyfle i’r gwirfoddolwyr feithrin sgiliau a phrofiad sylweddol o drefnu ymgyrch o’r fath. Yng Nghonwy, cafodd staff y cyngor yn y pen draw eu hailgyfeirio tuag at gefnogi’r grŵp cymorth cydfuddiannol hwn, ac roeddent yn gallu dylanwadu ar waith a sgiliau’r gwirfoddolwyr mewn ffordd gadarnhaol.

Mae enghreifftiau o elfen hanfodol arall o’r grwpiau hyn hefyd i’w weld yng Nghonwy, sef rôl llwyfannau ar-lein. Mae llawer o bobl, o nifer o wahanol gefndiroedd a gyda gwahanol lefelau o brofiad, wedi dod ymlaen i gefnogi eu cymunedau, gan ddod o hyd i grwpiau lleol ar Facebook a Whatsapp. Mae hyn wedi creu canolfan ar gyfer gweithredu cymunedol sydd â’r potensial i barhau ar waith ymhell ar ôl y pandemig, ac a all fod yn gymynrodd o’r ysbryd cymunedol a ddaeth i’r amlwg dros yr ychydig fisoedd diwethaf.

Beth yw tueddiadau gwleidyddol y grwpiau hyn?

Un o’r dadleuon allweddol yn y llenyddiaeth gynyddol ar y pwnc hwn yw tueddiadau gwleidyddol y grwpiau hyn. Mae O’Dwyer wedi nodi bod rhai o’r grwpiau hyn yn meddwl am eu gwaith yn nhermau gwleidyddol yn benodol, gyda safbwynt ideolegol â’i wreiddiau mewn syniadau anarchaidd. Nododd un astudiaeth fod aelodau o grwpiau cymorth cydfuddiannol yn llawer mwy tebygol o fod yn aelodau o bleidiau gwleidyddol na’r cyhoedd, ar y cyfan. Fodd bynnag, mae hefyd lawer o dystiolaeth yn dangos nad yw’r sawl sy’n cymryd rhan yn y grwpiau hyn yn eu gweld fel endidau gwleidyddol, ac nad ydynt yn ymuno â nhw am resymau gwleidyddol, fel yr awgrymir yma. Mewn gwirionedd, mae yna awydd i gadw gwleidyddiaeth allan o’r grwpiau hyn. Mae profiad Dafydd yn ategu’r syniad hwn – dywedodd iddo gychwyn grŵp ar y cyd â chynghorydd lleol, Ash Lister, a bod yna awydd i sicrhau bod grŵp Grangetown yn grŵp trawsbleidiol a di-blaid yn fwriadol. Yn Grangetown a Chonwy, roedd pobl o wahanol grwpiau a gwahanol gymunedau yn cefnogi’r ymgyrchoedd, gyda phobl nad ydynt yn rhan o wleidyddiaeth draddodiadol yn chwarae rolau allweddol. Mae Anastasia Kavada yn trafod y rôl y gallai’r grwpiau cymorth cydfuddiannol ei chwarae o bosibl wrth drawsffurfio ein cymunedau a’n diwylliant gwleidyddol yn gyffredinol, gan ennyn diddordeb pobl mewn cysyniadau o undod a chyfrifoldeb cymunedol am lesiant.

Cydberthynas â’r Wladwriaeth/yr Awdurdod Lleol

Un o’r cwestiynau pwysig wrth ystyried y syniad o gyfrifoldeb cymunedol a mentrau cymorth cymunedol yw eu cydberthynas â’r wladwriaeth. Y wladwriaeth sydd â’r prif gyfrifoldeb am sicrhau llesiant ei dinasyddion, ond mae pobl eraill wedi nodi bod gan grwpiau cymunedol fel y rhai a sefydlwyd ledled Cymru, nodweddion arbennig sy’n eu galluogi i gymryd rôl benodol mewn gofal a gwasanaethau cymunedol. Un agwedd o hyn a drafodwyd uchod yw rôl trefn lorweddol y mentrau, a’u natur llawr gwlad.

Mae profiad y grwpiau yng Nghonwy yn cynnig tystiolaeth sylweddol o fanteision grwpiau cymorth cydfuddiannol a arweinir gan y gymuned. Dywedodd y Cynghorydd Wynne fod natur llawr gwlad y grwpiau a sefydlwyd mewn cymunedau ledled sir Conwy, yn golygu eu bod wedi llwyddo i ddefnyddio gwybodaeth benodol, bersonol a chyfalaf cymdeithasol i sicrhau bod y sawl roedd angen cymorth arnynt yn ystod y cyfyngiadau symud, yn cael eu nodi. Byddai sefydliad mwy cyffredinol yn ei chael hi’n anodd, os nad yn amhosibl, i gael gafael ar wybodaeth o’r fath a’i defnyddio. Yn ogystal â gallu manteisio ar y wybodaeth bersonol a’r cyfalaf cymdeithasol penodol hwn, mae grwpiau a arweinir gan y gymuned yn fwy tebygol o lwyddo, ac mae’r gymuned leol yn fwy tebygol o’u cefnogi na mentrau a gynlluniwyd oddi uchod. Nododd y Cynghorydd Wynn bod y grwpiau a gafodd eu datblygu ledled Conwy yn ymgysylltu â’r gymuned yn well, ac yn ei deall yn well, na’r mentrau a ddatblygwyd gan y cynghorau neu’r llywodraeth, nad ydynt bob amser yn gweithio yn ymarferol.

Fodd bynnag, yn ogystal â nodi cryfderau grwpiau a arweinir gan y gymuned, mae profiad grwpiau cymorth cydfuddiannol Conwy hefyd wedi tynnu sylw at y ffaith ei bod yn bosibl meithrin cydberthynas gadarnhaol rhwng gwaith trefnu digymell y gymuned, a gwaith y Cyngor neu’r Llywodraeth. Gan fod y grwpiau cymunedol yn meddu ar wybodaeth benodol, menter ac ysbryd cymunedol roedd eu hangen i wneud gwahaniaeth pwysig i fywydau pobl sy’n agored i niwed, roedd yna berygl y byddai nifer y bobl oedd yn gofyn am eu cymorth yn mynd yn drech na’u gallu i’w ddarparu. Llwyddodd Cyngor Conwy i gamu i’r bwlch gan gynnig staff, adnoddau a seilwaith i drefnu’r grŵp o dan un pwynt cyswllt canolog. Ymgymerodd y gymuned a’r wladwriaeth wahanol gyfrifoldebau a gwahanol rolau, ond gan ddefnyddio gwybodaeth a sgiliau cyflenwol, a sicrhau bod cannoedd o bobl ledled y sir yn cael y cymorth roedd ei angen arnynt.

Mae’r camau i newid natur y broses o ddarparu gofal a chymorth ar y lefel leol, er mwyn rhoi lle canolog i’r sawl sydd angen gofal a chymorth yn y gwaith o gynllunio a darparu’r gwasanaethau sydd eu hangen, wedi bod yn tyfu yng Nghymru ers cyn yr argyfwng. Mae manteision gwasanaethau lleol, hyblyg ac ymatebol yn amlwg, nid yn unig i’r sawl sydd angen gofal, ond hefyd i’r sawl sy’n gweithio yn y diwydiant, a’r cymunedau lleol. Mae’r dull newydd hwn o ddarparu gofal, sy’n ddiwydiant craidd yn yr economi sylfaenol, yn ceisio gwella telerau cyflogaeth, lleihau’r arian a gaiff ei gollwng o economïau a chymunedau lleol, a mynd i’r afael â chadwyni cyflenwi estynedig yn y diwydiant. Mae Cyngor Abertawe wedi cael arian yn ddiweddar drwy Gronfa Her yr Economi Sylfaenol i ymchwilio i’r materion hyn ymhellach. Mae COVID-19 wedi cael effaith ddinistriol iawn ar gymunedau, yn arbennig ar y cymunedau hynny sydd angen ein help fwyaf, ond mae gan y systemau gofal hyperleol, a arweinir gan y gymuned a grëwyd yn ystod y cyfnod hwn, y potensial i gael eu datblygu er mwyn darparu gwasanaethu gofal gwell, mwy cynaliadwy, yng Nghymru.

Mae’r cwestiwn ynghylch y berthynas rhwng y gymuned a’r wladwriaeth wedi bod yn tyfu ers dechrau’r cyfnod cynni, a arweiniodd at leihau gwasanaethau’r llywodraeth a chynghorau. Soniodd David Cameron ei hun am rôl y “Gymdeithas Fawr”, ond mae’n bwysig ystyried y gwahaniaeth rhwng y ffenomenon cymorth cydfuddiannol a rhethreg o’r fath.  Yn anad dim, dylid gweld twf y grwpiau cymorth cydfuddiannol yn ystod y cyfnod hwn fel tystiolaeth bod ysbryd cymunedol ac undod yn fyw ac yn iach. Fodd bynnag, mae’n amlwg bod y grwpiau ledled Cymru yn amrywio. Mewn rhai ardaloedd, mae’r grwpiau cymorth cydfuddiannol a sefydlwyd eisoes yn meddu ar sgiliau a phrofiad sylweddol ym maes trefnu, ac maent yn barod i ymgymryd â rôl fwy ffurfiol wrth gefnogi pobl yn y gymuned yn y dyfodol. Fodd bynnag, nid yw hyn yn wir am bob grŵp, neu ym mhob man. Ni ddylent gael eu rhoi dan anfantais, ond, yn hytrach, dylid eu meithrin a’u cefnogi i ddatblygu a thyfu. Mae cryn botensial i’r grwpiau hyn, ac mae ganddynt fanteision penodol sy’n golygu y dylid ymddiried ynddynt a’u cefnogi i wasanaethu eu cymunedau – rôl y wladwriaeth fydd rhoi’r gefnogaeth hon mewn modd wedi’i deilwra, heb ddisgwyl y bydd un fath o gefnogaeth, neu un gydberthynas, yn gweithio ac yn llwyddo ym mhob cymuned ledled Cymru.

Beth yw’r potensial ar gyfer y dyfodol?

Rydym eisoes wedi gweld llu o drafodaethau yn dechrau yng Nghymru am y broses o ailadeiladu ein cymunedau a’n cymdeithasau yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod. Mae llunwyr polisi a phleidiau gwleidyddol eisoes wedi datgan eu hawydd cadarn i wneud pethau’n wahanol. Mae’n hanfodol gwneud hyn mewn ffordd sy’n ymgorffori’r ysbryd cymunedol, yr awydd i weithredu a’r undod a gaiff eu nodweddu gan bobl a busnesau yn cymryd rhan yn y grwpiau cymorth cydfuddiannol a drafodir yma. Byddai’r sawl sy’n gweithio ar fentrau’r llywodraeth yn y dyfodol i ymgysylltu â chymunedau wrth eu bodd i gael y fath lwyddiant a welsom yn y grwpiau cymorth cydfuddiannol hyn ledled y wlad, o ran y nifer o wirfoddolwyr a’r nifer o bobl a gafodd eu cefnogi. Dylai’r dasg o feithrin a chefnogi’r grwpiau hyn i barhau wrth i’r galw am eu gwasanaethau gynyddu a lleihau dros y misoedd nesaf, fod yn un o’r prif amcanion polisi yn genedlaethol a lleol. Mae’r anawsterau sydd ynghlwm wrth gyfyngiadau symud lleol, ail don y feirws, a’r bygythiadau i’n heconomi, yn awgrymu bod y grwpiau hyn yn hollbwysig o hyd.

Mae’r potensial i greu mentrau cymdeithasol newydd a chwmnïau cydweithredol ar sail y mentrau hyn yn amlwg. Maent yn cynnig lefelau o ymgysylltu, cyfalaf cymdeithasol ac undod sy’n sicrhau eu bod yn rhan unigryw a gwerthfawr o’r genhadaeth i wneud yn siŵr bod pob unigolyn yn ein cymunedau yn cael gofal. Fel y trafodwyd uchod, mae’r grwpiau a sefydlwyd ledled Cymru yn amrywio’n sylweddol. Bydd rhai o’r grwpiau hyn yn barod i gymryd mwy o gyfrifoldeb, dod yn rhan o’r seilwaith lleol, a throi’n fentrau cymdeithasol neu’n gwmnïau cydweithredol, a byddai Canolfan Cydweithredol Cymru wrth ei bodd yn eu cefnogi ar eu ffordd. Ni fydd grwpiau eraill ar y cam hwn eto, ond rydym yn erfyn ar gynghorau lleol i barhau i ymgysylltu â nhw mewn modd cyflenwol, a deniadol. Fel y trafodwyd yma, mae gan dwf gweithredu cymunedol y potensial i drawsffurfio cydberthnasau cymdeithasol a’r diwydiant gwleidyddol yng Nghymru. Wrth i ni anelu at greu cymdeithas well, dylai ffenomenon cymorth cydfuddiannol fod yn ganolog i’r agenda hon.

Erthyglau cysylltiedig