Blog

Mae Canolfan Cydweithredol Cymru yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i ddilyn arweiniad yr Alban ac ymrwymo i berchnogaeth gweithwyr

“Mae’r Alban wedi gweld cynnydd pum gwaith drosodd ym mherchnogaeth gweithwyr dros y blynyddoedd diwethaf ac mae’r cynnydd hwn yn cyflymu.”

By Mike Erskine · Rhagfyr 9, 2020

Gweler y dudalen hon yn: English

Mae papur gwyn newydd a gyhoeddir heddiw gan Ganolfan Cydweithredol Cymru yn amlinellu pum cam a argymhellir i Lywodraeth nesaf Cymru helpu i ddyblu nifer y busnesau sy’n eiddo i weithwyr yng Nghymru.

Yn ôl y Gymdeithas Perchnogaeth Gweithwyr*, mae cwmnïau cydberchnogaeth yn tueddu i fod yn fwy llwyddiannus, yn fwy cystadleuol, yn fwy proffidiol ac yn fwy cynaliadwy o’u cymharu â busnesau bach a chanolig, ac mae tystiolaeth gref i awgrymu y gall trosglwyddo i berchnogaeth gweithwyr fod yn fuddiol dros ben i berchnogion busnes a’r economi ehangach.

Mae dros 50 o gwmnïau yng Nghymru wedi derbyn cyngor gan Ganolfan Cydweithredol Cymru ynghylch trosglwyddo perchnogaeth. Cyflawnodd y Ganolfan ei haseiniad cyntaf ym 1994 wrth i weithwyr brynu Glofa’r Tŵr am £9 miliwn. Ers hynny, mae llawer o fusnesau wedi cael cymorth i drosglwyddo i berchnogaeth gweithwyr, gan gynnwys cwmnïau peirianneg, cwmnïau iechyd, busnesau manwerthu, cwmnïau ffilm a theledu, cwmnïau pensaernïaeth, sefydliadau technoleg gwybodaeth a chwmnïau argraffu.

Mae tystiolaeth dros nifer o flynyddoedd yn dangos bod busnesau sy’n eiddo i weithwyr yn fwy cadarn, yn fwy gwreiddiedig ac yn fwy cynhyrchiol – a bydd y rhinweddau hyn yn bwysicach nag erioed wrth i ni adfer ac ailadeiladu yn dilyn anawsterau eleni...

Dyna pam rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru a phob plaid wleidyddol i ymrwymo i anelu at ddyblu nifer y busnesau sy’n eiddo i weithwyr yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf.

Derek Walker, Prif Weithredwr, Canolfan Cydweithredol Cymru, Ffotograff o Derek Walker

9839

Mae Derek Walker, Prif Weithredwr Canolfan Cydweithredol Cymru, yn credu bod lle i fod yn hyderus ynghylch perfformiad a photensial y sector, er bod gan Gymru gyfran is o fentrau sy’n eiddo i weithwyr na rhai rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Dywedodd:

“Mae’r argyfwng Covid-19 wedi gwneud buddion perchnogaeth gweithwyr i weithwyr, busnesau a’n cymunedau yn gliriach fyth. Mae tystiolaeth dros nifer o flynyddoedd yn dangos bod busnesau sy’n eiddo i weithwyr yn fwy cadarn, yn fwy gwreiddiedig ac yn fwy cynhyrchiol – a bydd y rhinweddau hyn yn bwysicach nag erioed wrth i ni adfer ac ailadeiladu yn dilyn anawsterau eleni. Hefyd, mae cymhellion ariannol ar gael i fusnesau, gyda gostyngiadau treth sylweddol sydd o fudd i’r gwerthwr ac i’r gweithwyr.

“Dyna pam rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru a phob plaid wleidyddol i ymrwymo i anelu at ddyblu nifer y busnesau sy’n eiddo i weithwyr yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf. Mae hyn yn uchelgeisiol, ond mae’r effaith bosibl yn enfawr. Mae gennym gymorth busnes medrus a phrofiadol ar gael eisoes i unrhyw un yng Nghymru sydd eisiau darganfod rhagor am berchnogaeth gweithwyr, ac felly ein blaenoriaeth yw hyrwyddo’r model hwn i’r gymuned fusnes.”

Mae’r papur gwyn yn edrych ar arferion gorau mewn rhannau eraill o’r byd, gan gynnwys yr Alban, sydd â’r gyfran ail uchaf o fusnesau sy’n eiddo i weithwyr ymhlith holl genhedloedd a rhanbarthau’r DU, y tu ôl i Lundain yn unig.
Yn 2018, cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban darged uchelgeisiol o godi nifer y busnesau sy’n eiddo i weithwyr yn yr Alban o tua 100 i 500 erbyn 2030. Ar y cyd â’r targed hwn, sefydlwyd ‘Scotland for EO’, sef grŵp arweinyddiaeth diwydiant a gefnogwyd â £75k o gyllid gan Lywodraeth yr Alban. Erbyn hyn, mae tua 120 o gwmnïau sy’n eiddo i weithwyr yn gweithredu yn yr Alban, gyda thua 7,500 o weithwyr sy’n berchnogion yn cynhyrchu trosiant cyfun gwerth £950 miliwn.

Clare Alexander, Pennaeth Co-operative Development Scotland (CDS):

“Rydym wedi gweld cynnydd pum gwaith drosodd mewn perchnogaeth gweithwyr ers i ni ddechrau hyrwyddo’r model ac mae’r cynnydd hwn yn cyflymu. Mae nifer o resymau y tu ôl i lwyddiant yr Alban yn y maes hwn. Rydym wedi cael cefnogaeth ragorol gan Lywodraeth yr Alban ac mae cefnogaeth drawsbleidiol galonogol wedi arwain hefyd at fwy o ddeialog ynghylch y model perchnogaeth hwn. Mae’r gallu i gael mynediad i gyngor a chefnogaeth am ddim gan CDS fel bod busnesau yn gallu archwilio eu hopsiynau, yn ogystal â’n hymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth ymhlith cynghorwyr allweddol fel cyfrifwyr a chyfreithwyr, hefyd yn chwarae rhan sylweddol yn nhwf y sector.”

Tregroes Waffles

Paul Cantrill (chwith) a Sarah Owens (dde), cynghorwyr arbenigol perchnogaeth gweithwyr, Canolfan Cydweithredol Cymru, ochr yn ochr â Kees Huysmans (canol), perchennog busnes sy’n eiddo i weithwyr, Tregroes Waffles yn Nyffryn Teifi yn Ne-orllewin Cymru.

Yn ogystal â’r argyfwng sydyn a ddaeth yn sgil Covid-19, mae problem fwy hirdymor a pharhaus yn ymwneud ag olyniaeth busnes yng Nghymru yn ystyriaeth hanfodol hefyd. Busnesau bach a chanolig yw 99% o fusnesau, sy’n cyfrif am 62% o gyflogaeth y sector preifat yng Nghymru, ac mae perchnogaeth gan deuluoedd yn gyffredin. Mae 43% o’r busnesau hyn heb unrhyw gynllun olyniaeth ar waith, a dim ond 12% o gwmnïau teuluol sy’n parhau i’r drydedd genhedlaeth. Mae un o bob pump o fusnesau bach a chanolig yn wynebu cau neu olyniaeth yn ystod y pum mlynedd nesaf, ac mae 29% o fusnesau wedi bod o dan yr un berchnogaeth am yr 21 mlynedd diwethaf, sy’n golygu y gallai 15,000 o berchnogion busnesau fod yn bwriadu gadael eu busnesau.

Un cwmni amlwg sydd wedi mynd yn groes i’r duedd o ran olyniaeth yw Tregroes Waffles, sef popty bach teuluol yn Nyffryn Teifi yn Ne Orllewin Cymru. Dechreuodd y perchennog, Kees Huysmans, archwilio’r cysyniad o berchnogaeth gweithwyr tua phum mlynedd cyn dechrau trosglwyddo, ar ôl iddo gael ei ysbrydoli gan fodel Partneriaeth John Lewis. Yn 2016, gwerthodd Kees 10% o’i gyfranddaliadau i’r Ymddiriedolaeth gan ddefnyddio elw’r cwmni i dalu amdanynt. Fel rhan o’r cytundeb, bydd y perchennog yn gwerthu 10% arall i’r Ymddiriedolaeth bob blwyddyn ar yr amod bod y cwmni’n gallu talu amdanynt.

Yn ôl Kees Huysmans, mae’r model perchnogaeth gweithwyr wedi galluogi Tregroes Waffles i adeiladu ar ei lwyddiant yn yr ardal a bod yn fwy cadarn mewn adegau o argyfwng:

Rwy’n cymryd mwy o gam yn ôl ac mae ymlaen i’r genhedlaeth nesaf i benderfynu, y bobl sy’n gweithio yma, beth yw’r cam nesaf i’r cwmni ac mae hynny wedi arwain at ehangu’n eithaf dramatig. Ni fyddai hynny erioed wedi digwydd heb berchnogaeth gweithwyr.

“Rwy'n dal i gael fy ngwobrwyo am yr holl ymdrechion rydw i wedi'u gwneud i adeiladu'r cwmni hwn, ond gallaf reoli fwy neu lai y bydd y cwmni'n aros yma ac yn cynnal ei swyddogaeth yn yr ardal, ac mae hynny'n rhoi pleser mawr i mi.

Kees Huysmans, Tregroes Waffles

Papur Gwyn Perchnogaeth Gweithwyr

Gweld ac lawrlwytho yma (332.9KB pdf)

Yn y ddogfen hon, rydym am edrych ar yr hyn y mae angen i Gymru ei wneud i hyrwyddo'r math hwn o berchnogaeth busnes, a sut y gallwn ddyblu nifer y busnesau sy'n eiddo i weithwyr yn y wlad.

Ynglŷn â Chanolfan Cydweithredol Cymru

Canolfan Cydweithredol Cymru yw asiantaeth datblygu cydweithredol fwyaf y DU, sy’n gweithio ledled Cymru i hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, ariannol a digidol trwy ystod o brosiectau.

Ar gyfer unrhyw ymholiadau gan y wasg, cysylltwch â Mike Erskine, Swyddog y Wasg yng Nghanolfan Cydweithredol Cymru: mike.erskine@wales.coop

 

* Yn 2017 daeth panel annibynnol o arweinwyr busnes y DU ac arbenigwyr diwydiant ynghyd i glywed ac archwilio tystiolaeth gan 100+ o fusnesau ac ymgynghorydd busnes sy’n eiddo i weithwyr. Lansiwyd y canfyddiadau a’r argymhellion yn yr adroddiad Difidend Perchnogaeth ar 27 Mehefin 2018. http://theownershipeffect.co.uk/

Mike Erskine, Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus a Digwyddiadau, Canolfan Cydweithredol Cymru

mike.erskine@wales.coop