Blog | Gofal cymdeithasol

Wythnos Lleoliadau Annibynnol – Sut gall perchnogaeth gymunedol helpu lleoliadau sydd mewn perygl o gau

Mae’n Wythnos Lleoliadau Annibynnol, sy’n amseriad hynod berthnasol gyda mwy a mwy o leoliadau cerddoriaeth fyw yng Nghymru yn wynebu her a brwydr i gadw eu drysau ar agor.

By Catherine Evans · February 1, 2019

See this page in: English

Yng Nghanolfan Cydweithredol Cymru, rydym wrthi’n helpu tîm sy’n ceisio cadw Gwdihŵ i fynd. Dyma ganolfan fach yng nghanol Caerdydd sydd â dilynwyr selog, ac sydd wedi bod yn rhan amlwg o sin gerddorol y brifddinas er sawl blwyddyn bellach, gyda bandiau, beirdd a chantorion unigol yn hawlio’r llwyfan.

Yn un o dri busnes ar Gilgant Guildford, mae’r ddau arall – bwytai – eisoes wedi cau. Rydym yn helpu tîm ymgyrch Gwdihŵ i ystyried y posibilrwydd o berchnogaeth gymunedol fel ateb i barhau yn y dyfodol, ble bynnag fydd cartre’r lleoliad.

Mae gennym brofiad eisoes o helpu lleoliad cerddorol i bontio i ddwylo cymunedol, fel Le Pub, Casnewydd. Fe wnaeth y busnes adleoli i ran arall o ganol y ddinas, ac ers hynny, mae wedi mynd o nerth i nerth ers cyflwyno’r cyfranddaliad cymunedol cyntaf.

Claudia Limpert yw Cynghorydd Cyfranddaliadau Cymunedol Canolfan Cydweithredol Cymru, a chawsom gyfle i’w holi ar y mater hwn:

Allwch chi grynhoi’r cymorth a roddwyd i Le Pub, o gofio nad oeddech chi wedi gweithio gyda chanolfan gerddoriaeth fyw o’r blaen?

Pan gwrddais i â grŵp llywio /cyfarwyddwyr Le Pub am y tro cyntaf, criw o staff cyfredol a chwsmeriaid oedden nhw, o bob oed a chefndir. Daethon nhw at ei gilydd i chwilio am ffordd o achub lleoliad cerddorol a oedd yn bwysig i’w bywydau nhw, yn ogystal â’r gymuned gerddoriaeth ehangach yng Nghasnewydd. O’m safbwynt i, roeddwn i eisoes wedi gweithio gyda nifer o grwpiau cymunedol i gymryd yr awenau ar adeiladau neu fusnesau lleol, felly pan welais i’r gefnogaeth anferth oedd yna i achub Le Pub roeddwn i’n gwybod y byddai’r model cyfranddaliadau cymunedol yn gweithio iddyn nhw ac yn agor cyfleoedd i greu rhywbeth mwy a gwell.

Pa wahaniaeth wnaeth y cymorth hwn i Leb Pub, ei reolwyr, ei fuddsoddwyr a’i gwsmeriaid?

Rwy’n credu mai’r newid allweddol i Le Pub – neu Le Public Space fel y mae’n cael ei adnabod bellach – yw iddo newid o fod yn fusnes a oedd yn eiddo i un person, i fusnes sydd yn nwylo 70 o bobl. Mae’r rhain yn cynnwys cyfarwyddwyr, staff, cwsmeriaid, artistiaid sydd wedi perfformio yno, neu dim ond pobl sydd am gefnogi sin gerddorol yr ardal. Mae wedi cryfhau’r berthynas rhwng y busnes a’i holl randdeiliaid, a chaniatáu pob unigolyn i gael hawl pleidleisio yn y sefydliad. Hefyd, bu’n fodd i godi cyfalaf er mwyn helpu i bontio i’r lleoliad newydd a phwysleisio gwerth gwirfoddolwyr (gwyliwch eu fideo i weld yr holl dorchi llewys a fu). Erbyn hyn, maen nhw wrthi ers 18 mis heb orfod mynd ar ofyn noddwr grantiau neu fanc am arian (a fyddai wedi bod yn anodd ei gael beth bynnag).

llun o grŵp o bobl yn Le Pub

Rydych chi wrthi’n helpu Gwdihŵ am resymau tebyg nawr. Pam rydych chi’n credu y gall cyfranddaliadau cymunedol fod o fud iddyn nhw?

Mae’n drueni mawr gweld busnesau, fel rhai Cilgant Guildford, Caerdydd yn wynebu’r ansicrwydd o golli cartref. Rwy’n credu bod cymuned ehangach y brifddinas wedi teimlo hyn hefyd, ac mae’r holl gefnogaeth wedi bod yn anhygoel. Mewn adfyd daw cyfle, ac mae cyfle nawr i Gwdihŵ harneisio’r gefnogaeth honna a defnyddio’r model cyfranddaliadau cymunedol. Bydd yn rhoi cyfle i bobl ddefnyddio eu hadnoddau – amser, sgiliau ac arian – er mwyn helpu criw Gwdihŵ i ganfod ffordd o ail-greu popeth maen nhw’n sefyll drosto mewn lleoliad newydd.

Pam ydych chi’n credu bod perchnogaeth gymunedol yn ateb y gallai rhagor o ganolfannau cerddoriaeth annibynnol ei fabwysiadu?

Mae canolfannau cerddoriaeth annibynnol ledled y DU mewn trafferth. Mae cyfranddaliadau cymunedol yn rhoi cyfle i gymunedau wneud i bethau ddigwydd heb gael eu cyfyngu gan fiwrocratiaeth. Mae’n ateb posib i ganolfannau cerddoriaeth gan eu bod nhw’n ennyn cymaint o gefnogaeth eang gan aelodau o’r gymuned leol, sy’n cydnabod pwysigrwydd diwylliannol cael canolfan gelfyddydol sy’n gallu meithrin doniau lleol a thu hwnt. Mae’r sector cyfranddaliadau cymunedol yn tyfu, ac mae tystiolaeth yn awgrymu bod rhywun sy’n buddsoddi mewn menter leol yn fwy tebygol o ddod yn gwsmer neu’n wirfoddolwr rheolaidd – gan fod ganddyn nhw hyd yn oed mwy o ddiddordeb a budd i weld y busnes yn llwyddo. Mae’n golygu bod gan leoliadau sydd dan berchnogaeth gymunedol fantais gystadleuol dros fusnesau preifat.

I gloi, beth yw’r prif bethau mae’n rhaid i ganolfannau cerddoriaeth annibynnol eu hystyried cyn dod dan berchnogaeth gymunedol?

Byddai angen i leoliadau cerddoriaeth ystyried a ydyn nhw’n gyfforddus gyda’r egwyddorion cydweithredol a fyddai’n llywio’r modd maen nhw’n gweithredu fel busnes. Hefyd, byddai angen iddyn nhw fod yn gyfforddus gyda’r newid ym mherchnogaeth a rheolaeth y busnes. Dydy e ddim mor anhrefnus ag y mae’n swnio, gan mai’r staff rheoli a bwrdd y cyfarwyddwyr fyddai’n dal yn gyfrifol am wneud penderfyniadau llai bob dydd. Hefyd, mae angen gwneud tipyn o waith i bontio i berchnogaeth gymunedol, ond yn ffodus, gallwn ni ddarparu cymorth fel hyn dan ein rhaglen gyfredol sy’n cael ei hariannu gan y Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

I wybod mwy am ein gwasanaeth cyfranddaliadau cymunedol, ffoniwch ni ar 0300 111 5050 neu ewch i adran prosiectau ein gwefan.