#TrawsnewidCymru | Blog | Menter gymdeithasol

Y genhedlaeth nesaf o fentrau cymdeithasol #TrawsnewidCymru – ein rhestr o’r deg uchaf

Yn y trydydd blog yn ein cyfres ar gyfer #COP26, mae Melusi Moyo yn edrych ar sut mae cenhedlaeth newydd o fentrau cymdeithasol ledled Cymru yn mynd i’r afael â’r argyfwng newid hinsawdd trwy weithio i greu atebion cynaliadwy ym mhopeth o deithio llesol ac ynni cymunedol i ffasiwn gynaliadwy.

By Catherine Evans · 3 Tachwedd 2021

Gweler y dudalen hon yn: English

1. Adfywio Gŵyr

Y fferm solar 1 Megawat hon – sy’n cynhyrchu digon o drydan ar gyfer tua 300 o dai – yw’r fferm solar gyntaf yng Nghymru sy’n eiddo i’r gymuned. Mae’r holl elw a gynhyrchir o’r prosiect yn cael ei ailfuddsoddi yn yr ardal leol gan gefnogi bywoliaethau ar y tir a darparu sgiliau ac addysg er mwyn gwneud y gymuned wledig yn fwy ymwybodol o’r amgylchedd. Mae Adfywio Gŵyr hefyd yn annog mwy o gynlluniau amaethyddiaeth gymunedol ac yn datblygu partneriaethau lleol gydag ysgolion

Ers 2010, mae cynhyrchu trydan adnewyddadwy yng Nghymru wedi treblu, ond gallai perchnogaeth fwy lleol o gynhyrchu newydd helpu i ddarparu cymdeithas fwy cyfartal. Mae datgarboneiddio yn cynnig cyfleoedd enfawr i greu economi fywiog a chyfiawn yn gymdeithasol. Yn 2017, gosododd Llywodraeth Cymru darged ar gyfer 1 gigawat (GW) o gapasiti ynni adnewyddadwy yng Nghymru mewn perchnogaeth leol erbyn 2030. Mae prosiectau ynni cymunedol fel Adfywio Gŵyr yn gam mawr tuag at ddyheadau sero-net Cymru.

Llun o fenyw hŷn yn lansiad cynnig cyfranddaliadau Adfywio Gŵyr

2. Cwmni Buddiannau Cymdeithasol Prom Ally CIC

Dechreuodd menter gymdeithasol o Landudno, Ally Eloise ‘Prom Ally‘ er mwyn cefnogi bechgyn a merched ifanc na allent fforddio’r profiad o fynd i Prom. Mae’n cynnig benthyca am ddim ffrogiau prom a siwtiau i blant ysgol, myfyrwyr chweched dosbarth a myfyrwyr coleg sydd ddim yn gallu fforddio un fel arall.

Heddiw mae Prom Ally yn arwain y chwyldro ‘llogi, dim prynu’ ar gyfer gwisgoedd ffurfiol ac yn mynd i’r afael ag allgau ar sail tlodi ar yr un pryd. Mae’r fenter gymdeithasol wedi helpu cannoedd o ferched ers iddi ddechrau ac wedi ehangu’n ddiweddar i ddarparu ar gyfer bechgyn hefyd, gan gynnig siwtiau yn ogystal â ffrogiau. Enillodd y fenter gymdeithasol gategori ‘Un i’w Gwylio’ Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru yn 2021 am ei gwaith addawol. Mae’r diwydiant ffasiwn cynaliadwy yn sector sy’n tyfu, sy’n cynnig dillad sy’n amgylcheddol gynaliadwy ac yn galluogi pobl o gefndiroedd amrywiol i gael mynediad at a llogi dillad mewn ffyrdd rhad ac ecogyfeillgar. Mae’r economi gylchol yn allweddol ar gyfer cyflawni sero-net y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i’w gyrraedd erbyn 2050 (gydag uchelgais i gyrraedd yno ynghynt).

Trwy annog ymdrech Tîm Cymru – mae gan fentrau fel Prom Ally ran allweddol i’w chwarae.

3. The Bike Lock

Mae dwyn beiciau yn bryder gwirioneddol i deithwyr llesol, ac mae’r anhawster o ddod o hyd i fannau diogel i gloi beiciau yng nghanol trefi a dinasoedd yn broblem wirioneddol. Cyn bo hir, bydd menter gymdeithasol newydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd yn cynnig lle storio beiciau dan do saff a diogel cyntaf y ddinas, yn ogystal â chawodydd, man newid, storfa, man gweithio o bell a chynnyrch bwyd a diod o ffynonellau lleol a moesegol. beiciau mewn dinas

Gobaith y fenter yw annog teithio llesol yn y ddinas, a all gyfrannu at holl nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, fel yr amlygwyd yn adroddiad Canllawiau Teithio Llesol Llywodraeth Cymru Er enghraifft, mae hybu teithio llesol yn lleihau’r defnydd o geir ac felly tagfeydd gan wella gwytnwch Cymru trwy leihau allyriadau carbon a llygryddion niweidiol eraill. Mae teithio llesol hefyd yn tyfu ffyniant ac iechyd y gweithlu ledled Cymru. Mae tîm Bike Lock wedi llofnodi prydles a dylent fod yn agor y cyfleusterau’n fuan iawn.

4. Cwmni Buddiannau Cymdeithasol reSource Denbighshire CIC –

Mae gwastraff masnachol yn broblem gynyddol. Mae reSource yn fenter dargyfeirio gwastraff masnachol sy’n ail-bwrpasu ac yn annog dim gwastraff, wrth weithio gyda phobl ag anableddau Yn ddiweddar, mae’r grŵp wedi derbyn cyllid ar gyfer prosiect gwyrdd, gan gaffael adeilad segur dwy filltir o ganol tref Sir Ddinbych. Ar hyn o bryd maent yn paratoi’r siop reUse i ddarparu amrywiaeth o nwyddau y gellir eu hailddefnyddio fel ffabrig, papur, cerdyn, cardbord a sbwng ar gyfer gweithgareddau creadigol.

Nod reSource yw cefnogi’r economi gylchol leol, lle mae eitemau’n cael eu defnyddio tan ddiwedd eu hoes. Mae hyn yn cadw eitemau allan o’r safle tirlenwi ac yn cael eu defnyddio am gyfnod hirach, gan gefnogi teuluoedd lleol, sefydliadau addysgol, a grwpiau cymunedol. Yn 2020 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru (LlC) ei hadroddiad Mwy nag Ailgylchuar yr economi gylchol, gan ymrwymo i symud tuag at ddim gwastraff erbyn 2050 ac ailddatgan symudiad diwylliannol tuag at weithredu economi fwy cylchol ar draws holl ranbarthau a sectorau’r economi yng Nghymru.

5. One Global Ocean Ltd

Yn bumed ar ein rhestr mae One Global Ocean Ltd o Wynedd, sy’n gweithio gydag ysgolion a grwpiau ieuenctid i lanhau arfordiroedd lleol a chodi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd cefnforoedd iach ar gyfer cynnal bywyd. Dywedodd Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig; “Mae sbwriel morol yn parhau i fod yn un o’r bygythiadau mwyaf i’n moroedd a’n hamgylchedd morol,” gan bwysleisio pwysigrwydd mentrau cymunedol o’r fath wrth fynd i’r afael â materion amgylcheddol yng Nghymru. Cefnogodd Llywodraeth Cymru ddatblygiad Cynllun Gweithredu i Gymru ar Sbwriel Môr (MLAP) 2020-23.

Mae’r cynllun yn cyd-fynd â nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) i greu Cymru gadarnach. Mae One Global Ocean Ltd yn tynnu sylw at faes arall eto lle gall mentrau cymdeithasol gael effaith gadarnhaol ar newid yn yr hinsawdd.

6. Bwyd Bendigedig Sir Gaerfyrddin

Wedi’i sefydlu’n wreiddiol 10 mlynedd yn ôl yng Ngorllewin Swydd Efrog, mae’r mudiad Incredible Edible yn canolbwyntio ar dyfu, rhannu a rhoi mynediad at fwyd a gynhyrchir yn lleol. Mae Bwyd Bendigedig Sir Gaerfyrddinyn gweithio gyda chymunedau i drosi gofodau segur yn fannau tyfu cynhyrchiol, gan dyfu coed a llwyni ffrwythau, perlysiau, blodau bwytadwy, peillwyr a llysiau Mae’r cynnyrch a dyfir yn rhad ac am ddim i bawb ei rannu. Mae hefyd yn cynnal ystod eang o ddigwyddiadau sy’n helpu i rannu caredigrwydd a chryfhau’r gymuned leol trwy adeiladu ysbryd cymunedol. Mae’r rhain wedi cynnwys rhai gweithdai gwneud bara, gwneud baneri a macramé. Yn gynharach eleni pwysleisiodd Llywodraeth Cymru yr angen i fynd i’r afael â materion diogelwch bwyd mewn ffordd fwy cynaliadwy, gyda thlodi bwyd yn dod yn fater cynyddol i deuluoedd ac unigolion.

salad leaves being picked at co-operative

Mae’r mudiad Incredible Edible wedi ceisio arddangos pa mor hawdd yw tyfu bwydydd a darparu bwyd yn well i gymunedau lleol.

7. Natural Eco Vision

Nesaf ar y rhestr mae Natural Eco Vision, a sefydlwyd gan Tracey Alexander, ymddiriedolaeth tref a sefydlwyd i fod o fudd i gymuned ac amgylchedd naturiol Penarth. Mae’r ymddiriedolaeth yn gweithio ar draws ystod o brosiectau sy’n cefnogi addysg, y celfyddydau, yr amgylchedd ac iechyd. Ar hyn o bryd mae’n bwriadu creu adeiladau o amgylch cynefinoedd naturiol sy’n cynnwys nodweddion eco-gyfeillgar fel ffenestri ffrâm bren gan sicrhau bod adeiladau newydd yn fwy ystyriol i ardaloedd cadwraeth. Mae cynhyrchu tai sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd yn agwedd ganolog ar ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – gan greu ‘Cymru gydnerth’ sy’n cynnal ac yn gwella bioamrywiaeth yr amgylchedd naturiol. Mae Natural Eco Vision yn ceisio sicrhau a gwarchod ecosystemau sy’n gweithredu’n iach trwy ymgysylltu â’r gymuned ym mhob cam i reoli tir yn briodol a chreu tai sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd ar gyfer gwarchod natur.

jariau bwyd y gellir eu hail-lenwi

8. Yellow The Social Enterprise

Fel ychydig o rai eraill ar y rhestr hon, mae Yellow TSE yn hyrwyddo manwerthu cynaliadwy a chyfrifol. Mae’r fenter yn rhoi pwyslais enfawr ar leihau ei heffaith amgylcheddol trwy gyflwyno opsiynau moesegol i ddefnyddwyr siopa mewn ffyrdd mwy cynaliadwy. Mae Yellow TSE wedi nodi safle yng nghanol dinas Caerdydd ac mae’n bwriadu agor siop yno ym mis Chwefror 2022. Bydd y siop yn cynnwys lleoedd codi ar gyfer mentrau cymdeithasol newydd a chonsesiynau ar gyfer mentrau cymdeithasol mwy sefydledig. Y nod yw codi proffil mentrau cymdeithasol lleol a sicrhau bod cynhyrchion moesegol ac eco-gyfeillgar ar gael yn haws i siopwyr, fel y gallant symud i ffordd o fyw diwastraff.

9. Ynni Teg

Mae Ynni Teg yn fenter gymdeithasol sydd wedi’i chofrestru fel cymdeithas budd cymunedol. Mae Ynni Teg yn fenter gymdeithasol sydd wedi’i chofrestru fel cymdeithas budd cymunedol. Mae prosiect ynni cymunedol Cymru wedi’i leoli ger Caerfyrddin gyda thyrbin gwynt 900kw wedi’i gomisiynu yn 2017. Mae’r tyrbin yn sefyll ar 40 metr gyda rhychwant adain 54 metr a disgwylir iddo gynhyrchu digon o ynni i bweru tua 650 o gartrefi. Mae Ynni Teg yn ymdrechu i ddatblygu dyfodol ynni glân i Gymru, sy’n lliniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd trwy ddefnyddio cynhyrchu ynni adnewyddadwy sydd o fudd uniongyrchol i gymunedau lleol. Mae Ynni Teg yn gobeithio helpu ynni cymunedol i ffynnu a gwneud cyfraniad sylweddol at ddyfodol ynni carbon isel, a arweinir gan y gymuned, i Gymru. Mae grwpiau ynni cymunedol wedi cyrraedd bron i 100,000 o bobl yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan eu gosod yn gadarn ar flaen y gad yn y newid yn yr hinsawdd.

picture of a wind turbine

Mae ymgysylltu’n uniongyrchol â chymunedau wrth drosglwyddo Cymru i sero net, a sicrhau bod y newid hefyd yn deg i bobl Cymru, yn elfen ganolog. Mae’r grŵp yn parhau i ailfuddsoddi unrhyw elw yn y gymuned leol o amgylch y tyrbin ac yn chwilio’n barhaus am gyfleoedd i archwilio mwy o brosiectau.

10. Y Tŷ Gwyrdd

Mae Y Tŷ Gwyrdd yn ganolbwynt cymunedol ar lawr gwlad wedi’i leoli yn Ninbych, Gogledd Cymru. Mae’n ofod cynhwysol, ysbrydoledig gyda siop sy’n cynnig cynhyrchion masnach deg a diwastraff o ffynonellau lleol. Ymhlith y cyfleusterau arfaethedig mae caffi, lle chwarae dan do caeedig, llogi ystafell, gweithdy atgyweirio rheolaidd, a chyfnewid llyfrau, dillad a theganau. Y prif ffocws yw dathlu a hyrwyddo’r bobl, busnesau a phrosiectau ysbrydoledig yn Ninbych a’r ardal gyfagos, a helpu i leihau effaith y gymuned ar yr amgylchedd trwy gynnig opsiynau a chyfleoedd dim gwastraff fforddiadwy a hygyrch i hwyluso economi gylchol.

Mae'n amlwg bod mentrau cymdeithasol yn creu llwybr i Gymru ddod yn fwy ecogyfeillgar, cynaliadwy a chryf, trwy amddiffyn ein cefnforoedd, cyfyngu ar ein hôl troed carbon, a datblygu ynni gwyrdd - i gyd trwy agwedd deg, a arweinir gan y gymuned. Wrth i'r sector barhau i dyfu, mae gan fentrau cymdeithasol ran allweddol i'w chwarae wrth ddarparu atebion arloesol ar gyfer dyfodol Cymru.

Melusi Moyo, intern yng Nghanolfan Cydweithredol Cymru

Melusi Moyo
 

Your Trusted Friend i ehangu gwasanaeth cydymaith ar draws gogledd Cymru, diolch i gefnogaeth y Loteri Genedlaethol

Gwnaeth Your Trusted Friend gais llwyddiannus am £10,000 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i ddarparu gwasanaeth cyfeillio i bobl ledled gogledd Cymru, gan adeiladu mwy o gyfeillgarwch hirhoedlog a ffyddlon.