Cydweithredol | Menter gymdeithasol

Yr economi sylfaenol yng Nghymru – gwreichionyn sy’n pylu’n sydyn, neu gyfraniad allweddol at dwf economaidd cynhwysol?

Yn ystod y gynhadledd ddiweddar, Arloesedd Cymdeithasol yn yr Economi Sylfaenol, soniodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Gyllid, am ennyd allweddol yn hanes yr economi sylfaenol yng Nghymru, lle y mae yna berygl y bydd y theori'n llosgi'n sydyn, cyn pylu fel gwreichionyn.

By WalesAdmin · 30 Hydref 2018

Gweler y dudalen hon yn: English

Felly, beth a allwn ni ei wneud i sicrhau nad yw’r economi sylfaenol yn troi’n ‘wreichionyn’, ond yn hytrach yn dod yn sail i dwf lleol a chynhwysol yng Nghymru? Mae’r blog hwn yn crynhoi’r datblygiadau a’r syniadau diweddar yn y maes hwn.

Mae’r economi sylfaenol yn darparu nwyddau a gwasanaethau hanfodol ar gyfer bywyd bob dydd. Mae’r rhain yn cynnwys seilweithiau; cyfleustodau; gwasanaethau prosesu, manwerthu a dosbarthu bwyd; ynghyd â gwasanaethau iechyd, addysg a lles. Mae’r economi sylfaenol yn darparu nwyddau a gwasanaethau sy’n hanfodol i ddiwallu anghenion lleol, yn ogystal â chynnig nifer helaeth o swyddi – mae’n cyfrannu at hyd at 45% o’r gyflogaeth mewn rhannau o Gymru.

Mae Canolfan Cydweithredol Cymru wedi rhoi’r gwaith o feithrin economïau lleol cynhwysol wrth graidd ei strategaeth gan fod hynny’n cyd-fynd â’n gwerthoedd fel sefydliad. Rydym wedi ymrwymo i helpu i greu a chynnal cyfoeth yn ein cymunedau, yn ogystal â gweithio at y nod o sicrhau economi decach. Rydym o’r farn bod yr economi sylfaenol yn allweddol i’r gwaith o ddatblygu economïau lleol cynhwysol. Mae hyn hefyd yn berthnasol i’r busnesau cymdeithasol a’r cwmnïau cydweithredol yr ydym yn eu cefnogi. Amlygodd ein gwaith ymchwil achos pendant o orgyffwrdd rhwng yr economi sylfaenol a’r economi gymdeithasol, gyda nifer o fentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol yn gweithio yn sector gwasanaethau yr economi sylfaenol.

 

Mae yna symudiad cynyddol mewn perthynas â’r economi sylfaenol yng Nghymru, ac fe’i cefnogir gan Rwydwaith yr Economi Sylfaenol, y mae Canolfan Cydweithredol Cymru yn aelod ohono. Mae’r prosiectau peilot a gefnogir gan y rhwydwaith hwnnw yn cynnwys gwaith cydweithredol gan gymdeithasau tai ym Mlaenau Gwent yn adolygu’r modd y gellir gwario arian yn fwy lleol, yn ogystal â gwaith datblygu cymunedol, sy’n seiliedig ar Asedau, yn ardal Treforys gan y cwmni Coastal Housing. Yn ogystal â hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod yr economi sylfaenol yn Ffyniant i Bawb: y Cynllun Gweithredu ar yr Economi, sy’n cynnig cefnogi pedwar sector sylfaenol, sef twristiaeth, bwyd, manwerthu a gofal.

Yn aml, mae trafodaethau am y modd y gallwn ddatblygu sector yr economi sylfaenol yng Nghymru yn canolbwyntio ar gaffael. Rhoddwyd ystyriaeth fanwl i’r mater hwn yn ystod y gynhadledd Arloesedd Cymdeithasol, a gallwch ddarllen yr adroddiad yma. Roedd yr awgrymiadau o ran y modd yr ydym yn ailystyried caffael yng Nghymru yn amrywio o roi strategaethau, sy’n meithrin cyfoeth lleol, ar waith yng Nghymru, i gronfa gyllid er mwyn cyflwyno her gyfreithiol i alluogi cyrff cyhoeddus i amddiffyn camau gweithredu posibl gan gwmnïau mawr sydd ar gontractau allanol.

Rhoddwyd sylw hefyd i gaffael a strategaethau sy’n meithrin cyfoeth lleol yn ystod dadl ddiweddar yn y Cynulliad ynghylch yr economi sylfaenol. Tynnodd Aelodau’r Cynulliad sylw at arfer da a oedd ar waith yn Preston, lle’r oedd Cyngor Dinas Preston wedi gweithio gyda sefydliadau angori lleol (e.e. y brifysgol a chymdeithas dai) i wario arian yn fwy lleol. Trwy adolygu’r gwariant caffael a rhoi llai o bwyslais ar gost yn unig, llwyddodd Preston i godi cyfanswm y gwariant gyda sefydliadau lleol o 5% yn 2012-2013 i 18.2% yn 2016-2017. Yn ogystal â hyn, lluniodd aelodau Grŵp yr Economi Sylfaenol bapur briffio  ar gyfer Aelodau’r Cynulliad cyn y ddadl, a oedd yn amlinellu rhagor o syniadau mewn perthynas â’r camau gweithredu sy’n ofynnol i gefnogi sector yr economi sylfaenol yng Nghymru.

Amlygodd ein hadroddiad, a luniwyd ar y cyd â Sefydliad Bevan, rôl yr economi sylfaenol mewn perthynas â meithrin economïau lleol cynhwysol, yn ogystal ag awgrymu camau ymarferol y gellir eu cymryd i gefnogi’r economi sylfaenol. Roedd yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru, y Bargeinion Dinesig, a’r awdurdodau lleol groesawu ymagwedd sy’n seiliedig ar asedau, sy’n gydweithredol, ac sy’n meithrin gallu mewn perthynas â datblygu’r economi sylfaenol. Nodwyd y dylent gefnogi a gwerthuso arloesedd, ynghyd ag annog y broses o fabwysiadu arferion da. Cefnogwyd yr argymhellion hyn yn yr adroddiad Ein Heconomïau Lleol gan yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau (BCT) a’r Ganolfan ar gyfer Strategaethau Economaidd Lleol (CLES). Roedd yr adroddiad hwn yn argymell y gellid datblygu economïau lleol yng Nghymru trwy feithrin cyfoeth lleol, adeiladu cwmnïau bach a datblygu asedau cymunedol.

Nid yw’r syniadau, a grynhoir yn y blog hwn, mewn perthynas â datblygu a chefnogi’r economi sylfaenol yng Nghymru, yn gyflawn ar unrhyw gyfrif. Byddem hefyd yn awyddus i glywed safbwyntiau busnesau cymdeithasol ledled Cymru am y modd y gallwn feithrin yr economi sylfaenol yn y wlad. Beth arall y dylid ei wneud i alluogi sector yr economi sylfaenol i dyfu yng Nghymru? Beth y gall busnesau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol ei wneud i gefnogi twf a datblygiad mewn perthynas â’r economi sylfaenol yng Nghymru?